Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

A'r holl Jazz...

Mae Jazz o’n cwmpas ymhobman, mewn cerddoriaeth a ffasiwn, mewn dawns a dylunio ac nid dyna’r cyfan ... yn ôl seicolegwyr gall hefyd leihau ein lefelau straen.

Felly beth am ddianc rhag yr holl ffws a ffwdan tymhorol y Nadolig hwn, ac ymlacio drwy wrando ar jazz anhygoel? Dyma chwech o'r nosweithiau jazz gorau ydym ni wedi dod o hyd iddynt yng Nghaerdydd.

Mae gennym jazz byw ardderchog yn Ffresh hefyd gan gynnwys: Fraser and the AlibisClifford Brown/ Max Roach Revisited a’r Nat King Cole Story  gyda’r canwr jazz melfedaidd, Atila.

1. Café Jazz

Mae gan Café Jazz yn cynnig arlwy ffres o jazz bob nos Fawrth i nos Sadwrn. Ar nos Fawrth mae 'The Preservation Jazz Society' yn cyflwyno jazz hwyliog a cheir y jazz fodern orau gan artistiaid lleol a rhyngwladol bob nos Iau.

Mae Café Jazz yn agored saith niwrnod yr wythnos ac yn rhywle lle gallwch ddianc iddo rhag y torfeydd er mwyn ymgolli mewn noson felodaidd o gerddoriaeth ymlaciol.

2. CAFÉ BAR GWIDIHŴ

Café-bar a chlwb yw Gwdihŵ, sy'n cynnig lle i gerddoriaeth amgen ac annibynnol ffynnu, gan gynnwys ‘nosweithiau jamio’ y gymdeithas jazz.

Mae croeso i unrhyw un ddod draw i gael diod, i chwarae offeryn neu i wrando ar gerddoriaeth jazz ryfeddol.

3. COLEG BRENHINOL CERDD A DRAMA CYMRU

Dyma gyfle i ddadflino ar brynhawn Gwener a chamu i'r penwythnos yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bob dydd Gwener o 5.30pm – 7pm mae'r Coleg yn cynnal 'Amser Jazz'; sef clwb jazz lle bydd dau fand yn perfformio bob wythnos ac yn rhoi cipolwg inni o ddyfodol Jazz Prydeinig a hynny yn rhad ac am ddim.

4. Tiny Rebel

Mae Tiny Rebel yn cynnal nosweithiau jazz ar yr ail ddydd Iau o bob mis. Bydd Echo Music yn cyflwyno nosweithiau jazz yn rhad ac am ddim rhwng 9pm a 12pm yn y bragdy arobryn hwn.

Tiny Rebel yw'r bragdy ieuengaf a'r unig fragdy yng Nghymru i gipio teitl Pencampwr Cwrw Prydain, felly os hoffech ymlacio a phrofi detholiad o gwrw hynod flasus a mwynhau jazz yng nghwmni cerddorion gwadd, yna dyma'r lle i chi.

5. The Flute and Tankard

Mae ''Live at The Flute and Tankard' yn cynnal nosweithiau jazz bob nos Fawrth a nos Fercher lan stâr yn y dafarn.

Mae’r nosweithiau jazz hyn yng nghanol dinas Caerdydd, yn cynnwys bandiau lleol yn ogystal â grwpiau teithiol cenedlaethol.

Mae'r dafarn hefyd yn cefnogi'r cerddorion yn gyfan gwbl, felly mae holl elw'r sesiynau byw yn mynd yn uniongyrchol i'r perfformwyr.

6. NEUADD DEWI SANT: JAZZ ON THE LEVEL

Yn Lolfa Lefel 3, mae cerddorfa Capital City Jazz Caerdydd ei hun yn cynnal ei nosweithiau 'Jazz on the Level ' yn rheolaidd, ac yn cynnwys gwesteion arbennig ac adnabyddus.

Mae digonedd yn digwydd bob amser yn y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol gydag adloniant byw, gweithdai, bariau a siopau coffi a hefyd dyma gartref Proms blynyddol Cymru Caerdydd ac mae'n werth dod draw i’w gweld.