Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ar gau tan Ionawr 2021

Yr wythnos yma yw un o wythnosau anodda fy ngyrfa. Ar y cyd â'r tîm rheoli ac ymddiriedolwyr Canolfan Mileniwm Cymru, rydw i wedi gorfod gwneud y penderfyniad ofnadwy o anodd o gau’r ganolfan tan fis Ionawr 2021, o ganlyniad i’r effaith ddinistriol mae pandemig y Coronafeirws wedi’i chael ar y diwydiant theatr.

Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd. Bydd yn effeithio ar ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein gweithwyr llawrydd, ein cymuned, y bobl ifanc rydyn ni'n gweithio gyda nhw, ein cyflenwyr, heb anghofio'r 1.6 miliwn o ymwelwyr sy'n mwynhau dod i'r adeilad bob blwyddyn.

Byddwn ni'n gweld eisiau ein cynulleidfaoedd, ac rydyn ni'n hynod ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein haelodau a'n rhoddwyr.

Fodd bynnag, heb ddim gwybodaeth o ran pryd bydd modd codi'r cyfyngiadau ar ymgynnull mewn torf, a heb ddim canllawiau ar sut bydd diwydiant theatr Prydain yn gweithredu pan fyddwn ni'n cael agor, roedd yn benderfyniad angenrheidiol er mwyn sicrhau dyfodol y sefydliad.

Fel llawer o ganolfannau eraill ledled gwledydd Prydain, rydyn ni'n gwybod na fyddwn ni'n gallu cynnal perfformiadau ar ein llwyfannau tra bod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.

Yn yr amgylchiadau yma, allwn ni ddim agor y theatr mewn ffordd sy'n darparu profiad da i'r gynulleidfa ac sy'n hyfyw yn economaidd i'r Ganolfan a'r cynhyrchwyr sy'n cyflwyno eu gwaith yma.

Mae ein holl sioeau mawr ar gyfer 2020 bellach wedi’u gohirio neu eu canslo, ac mae'n bosib y byddwn ni'n aros ar gau tan wanwyn neu hyd yn oed haf 2021.

A scene from Phantom Of The Opera

Rydyn ni hefyd yn disgwyl y bydd tarfu sylweddol o ran y sioeau teithiol fydd ar gael am sawl blwyddyn i ddod, wrth i gynyrchiadau gael eu canslo heb i ddim sioeau newydd gael eu creu chwaith. Rydyn ni'n siarad gyda chynhyrchwyr sioeau teithiol a chanolfannau eraill bob dydd.

Rydyn ni i gyd yn teimlo'r effeithiau ac yn gwybod bod y sefyllfa'n ddifrifol iawn, ac mae angen ymyrraeth ac arweiniad y Llywodraeth ar frys.

Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth barhaus ac rydyn ni'n ceisio cael cyllid ychwanegol i barhau â'n gwaith elusennol ac artistig yn ystod y cyfnod anodd yma.

Mae llwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru yn seiliedig ar ein gallu i greu lefelau sylweddol o refeniw masnachol, ac wrth gau ein drysau, fe gollon ni 85% o'n hincwm dros nos.

Bydd effaith cau am 12 mis yn arwain at golli tua £20m o refeniw masnachol i Ganolfan Mileniwm Cymru a rhyw £70 miliwn i economi Cymru.

Tra byddwn ni ar gau, fe wnawn ni bopeth allwn ni i gadw'n gwaith artistig ac elusennol i fynd, ac i sicrhau ein bod ni'n barod ar gyfer ailagor cyn gynted ag y bydd hynny'n ymarferol bosib.

Dydyn ni ddim yn gwybod pryd fydd hynny, ond rydyn ni'n edrych ymlaen at gael parhau i danio'r dychymyg am genedlaethau i ddod.

Mat Milsom

Rheolwr Gyfarwyddwr, Canolfan Mileniwm Cymru

MAE 85% O’N REFENIW WEDI MYND

BYDD CYMORTH HEDDIW YN DIOGELU EIN DYFODOL