Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ar yr awyr gyda Radio Platfform

Dyma Edward Lee, ein cydlynydd Gorsaf Radio Platfform, yn edrych nôl ar 2021 ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn gyffrous sydd i ddod i’r orsaf yn 2022.

Cychwynais yn fy rôl nôl yn Haf 2021, yn gweithio ar y cyd gyda'n Cynorthwy-ydd Darlledu, Ren Tryner, a Chydlynydd ein ail orsaf yn y Porth, Molly Palmer.

Er yr holl gymhlethdodau wynebodd yr orsaf o ganlyniad i gyfyngiadau’r pandemig, ailagorodd ein gorsafoedd yn y Porth a Chaerdydd eu drysau o’r diwedd i’r bobl ifanc sy’n ran o’r prosiect.

Gwelwyd yr holl waith caled yn talu ei ffordd mewn cwpwl o fisoedd anhygoel yn arwain at ddiwedd 2021 a oedd yn llawn dop o ddigwyddiadau a chyfleoedd ar gyfer aelodau ein gorsaf.

Buom yn mynychu ac yn cynhyrchu rhaglenni radio a phodlediadau o Focus Wales 2021, digywddiad cysgu Dros Nos yn y Ganolfan, Gŵyl Ffilmiau LHDTh+ Gwobr Iris, y digwyddiad Calan Gaeaf Terror Mountain yn Aberystwyth, a Gŵyl y Llais lle buom yn darlledu sioeau byw yn ystod yr ŵyl pedwar diwrnod a chynnal gigs byw Next Up yn ein gofod.

Daeth 2021 i ben gyda pwyllgor llywio wyneb yn wyneb yn ein gorsaf yng Nghaerdydd a phryd o fwyd allan gyda aelodau ein gorsaf. Cefais fy nghyffroi gan yr ymdeimlad o ddechrau newydd yn yr orsaf yn y misoedd diwethaf yma, y teimlad o egni newydd.

Rydw i wedi parhau gyda’r egni yma i mewn i 2022. Cychwynodd y flwyddyn gyda dechrau newydd yn Ionawr, wrth groesi dau aelod newydd i’r tîm: Daniel Edwards fel ein Swyddog Ymgysylltu ac Hyfforddi ac Asha Feltcher-Peters fel ein Swyddog Marchnata a Digwyddiadau. Mae’n teimlo’n grêt i gael tîm cyfan yn gweithio yn yr orsaf eto a dwi ar bigau’r drain i weld beth sydd ar y gorwel i ni.

Cam mawr gyda 2022 hyd yn hyn yw ein gwaith ymgynghori, gyda Daniel yn neidio’n syth mewn i ddatblygu’r cwrs hyfforddi a gweithdai.

Yn gweithio ar y cyd gyda ProMo-Cymru, rydym wedi bod yn darparu dwy set o'n cwrs hyfforddi radio nodedig ochr yn ochr; un grŵp gan alwad agored drwy ochr Llais Creadigol y Ganolfan, ac un arall i’r bobl ifanc o grŵp Aprentis Creadigol Iau o Goleg Caerdydd a’r Fro.

Mae llawer o gyffro wedi bod yn yr aer gyda’r cyrsiau hyn, oherwydd nhw yw ein cyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb cyntaf yn yr orsaf yng Nghaerydd ers Chwefror 2020! A nid dyma yw'r diwedd.

Rhwng y cyrsiau hyn a’r gweithdai blas ar brofiad gyda'r ysgolion uwchradd lleol, Willows, Fitazlan a Cathays, rydym wedi darparu gweithdai radio a hyfforddiant i dros 50 o bobl ifanc ers dechrau'r flwyddyn!

Grŵp Llywio Radio Platfform yn bwyta pitsa

Hefyd yng ngorsaf Caerdydd, mae Ren wedi bod yn brysur yn diweddaru ein system radio i’r feddalwedd ddiweddaraf i gael ein darlledu nôl ar yr awyr yn well nag erioed.

Rydym wedi cynnal ein pwyllgor llywio gorsaf Caerdydd cyntaf o’r flwyddyn i glywed beth mae’r aelodau eisiau ei wneud o’r gofod eleni, a rydw i ac Asha yn edrych am ddigwyddiadau a chyfleoedd gallwn ddarparu i bobl ifanc Radio Platfform.

Yn y cyfamser, yng ngorsaf y Porth, mae Molly wedi bod ar dân. Gallwch ddal fyny gyda phob dim mae hi wedi bod yn ei wneud yma, a gwrando ar sioe newydd sbon a recordiwyd gan aelodau newydd gorsaf Porth isod.

Mae’n teimlo fel bod 2022 ond newydd gychwyn, a dwi methu aros i weld be byddwn ni’n ei wneud nesaf. Os oes ganddoch chi ddiddordeb cadw golwg ar bob dim rydym ni’n ei wneud, dilynwch ni @radioplatfform ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ac os hoffech chi gymryd golwg ar ein gorsafoedd, dysgu mwy am ein gwaith neu gymryd rhan mewn unrhyw un o’n gweithdai, gyrrwch neges at radioplatfform@wmc.org.uk.

Edward Lee – Cydlynydd Gorsaf Caerdydd, Radio Platfform