Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
art work by Ludo Natatorium

ARDDANGOSFA EICH LLAIS: TU ÔL I’R LLEN

Mae gweithio ar arddangosfa Eich Llais wedi bod yn gyfle cyffrous i archwilio gofod ffisegol Canolfan Mileniwm Cymru a chreadigrwydd anhygoel pobl ledled Cymru.

Mae wedi bod yn gyfle gwych i gydweithio gydag adeilad eiconig a chyfuno fy ngwaith fel dylunydd/dramodydd gweledol ym maes theatr gyda fy mhrofiadau o gynnal gwyliau.

Dydw i heb fod yn guradur yn yr ystyr traddodiadol ar gyfer y prosiect yma, oherwydd aethon ni ddim ati i chwilio am fathau penodol o waith, a chafodd popeth – ar wahân i ambell ddarn comisiwn – ei gyflwyno gan bobl o bob rhan o Gymru drwy wahoddiad agored.

Yn hytrach, rydw i wedi curadu profiad yr ymwelydd, gan geisio grwpio darnau’n gyffredinol i themâu eang sydd wedi dod i’r amlwg o’r gwaith – protest, natur, siwrneiau, Covid, ffurfiannau, hunaniaeth, a storïwyr – a cheisio paru darnau, boed hynny’n unigol neu fel grwpiau, i ofodau oedd yn teimlo’n iawn yn emosiynol, er enghraifft gofod tal a dramatig ar gyfer ffasiwn annibynnol neu ofodau bach a chyfyng er mwyn adlewyrchu unigedd a’r cyfnod clo, a gwneud hynny gyda’r cannoedd o weithiau a gafwyd drwy’r alwad agored ar gyfer arddangosfa Lleisiau dros Newid.

Mae un o’r gofodau mwyaf, y Lanfa, sef mynedfa’r arddangosfa, yn cynnwys dwy oriel sy’n sgwrsio â’i gilydd – un ar y llawr gwaelod ac un ar y balconi – sef protest a chymuned/hunaniaeth, ac mae’r ddau bwnc yma wedi bod yn ganolog i weithgarwch a myfyrdodau dros y 18 mis diwethaf.

Mae wedi bod yn her gyffrous cynllunio’r daith unffordd drwy’r adeilad, ac rydw i’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau’r llwybr rydyn ni wedi’i greu sy’n gwau ei ffordd drwy bob lobi a bar cyhoeddus, yn ogystal â thri phrofiad ar lefelau gwahanol yn Theatr Donald Gordon, a rhan o’r llwybr drwy goridor cefn llwyfan hyd yn oed.

Mae’r daith gyfan yn cynnwys cannoedd o gamau ar draws y chwe llawr – fe wnaeth un aelod o’r tîm argymell bod ymwelwyr yn dod â photelaid o ddŵr gyda nhw i’w hyfed ar y daith – er bod modd cyrraedd yr holl orielau a’r gweithiau celf mewn lifft, ac rydyn ni’n cynnig digon o bwyntiau gorffwys drwyddi draw!

Mae’r arddangosfa yn cynnwys nifer o weithgareddau i ymwelwyr eu cyflawni a chyfrannu at greu gosodweithiau parhaus, gan ychwanegu eu lleisiau, eu hanesion, eu gobeithion a’u breuddwydion at waddol y prosiect.

Mae’r dewisiadau esthetig yn yr arddangosfa yn seiliedig i raddau ar yr adnoddau oedd ar gael, ac mae cyfran fawr o’r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio wedi dod o weithiau blaenorol o unedau storio’r Ganolfan a’r brif ddesg docynnau, sydd bellach wedi’i dymchwel i wneud lle ar gyfer gwaith diweddaru ac ailfodelu sydd ar y gweill.

Fe wnaeth y deunyddiau yma, a fyddai wedi cael eu taflu i’r sgip fel arall, ddarparu llawer o ysbrydoliaeth, ac maen nhw wedi caniatáu i’r arddangosfa ddod yn rhan wirioneddol o’r gofod.

Gydag amserlen mor dynn ar gyfer prosiect mor fawr â hyn, mae’r tîm o dechnegwyr wedi bod yn hollol wych o ran eu dull creadigol a’u hysbryd cydweithredol er mwyn gwireddu fy mrasluniau, gan helpu i gyfateb deunyddiau a dulliau i greu gofodau dynamig.

Heb eu gwybodaeth, eu hysbryd a’u cefnogaeth hael nhw, fydden i ddim wedi gallu cyflawni hyn!

Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn dod o hyd i rywbeth yn yr arddangosfa sy’n eu symud neu’n eu hysbrydoli.

Gyda’r nifer ysgubol o gyfraniadau – o gymunedau lleol i gymunedau cenedlaethol, gwaith serameg i seinwedd, paentiadau i ffilmiau, artistiaid rhwng 4 ac 84 oed – mae gweld yr ysbryd creadigol a’r lleisiau amlwg sy’n bodoli ledled Cymru wedi bod yn deimladwy iawn i fi a’r tîm, ac mae wedi bod yn anrhydedd cyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd wrth ailagor yr adeilad.

Brad Caleb Lee – Curadur Arddangosfa Eich Llais