Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Tu ôl i ddrysau caeedig - Mis Rhagfyr

I ble'r aeth y Nadolig? A ninnau bellach wedi cychwyn 2021, dyma edrych yn ôl ar yr hyn a wnaethon ni yn ystod mis Rhagfyr 2020. 

Dros gyfnod yr ŵyl fe wnaethon ni barhau i arddangos gwaith celf ardderchog ein cymuned, gan gynnwys cerfluniau gwych gan artistiaid lleol a phartneriaid. Buom hefyd yn cydweithio â’r Lyric Hammersmith a Pins and Needles I gyflwyno perfformiad digidol o Raymond Briggs Father Christmas.

Ac rydyn yn mawr obeithio i’n gwaith celf ‘Nadolig Llawen' a ymddangosodd ar flaen ein hadeilad ddod â thamaid o hwyl yr ŵyl i Fae Caerdydd.

Adeilad Canolfan Mileniwm Cymru wedi'i oleuo'n goch a gwyrdd dros y Nadolig

Fe wnaeth @HijinxTheatre un o’n cwmnïau preswyl gwych, gyflwyno #12DiwrnodoBAWB - gŵyl ar-lein yn arddangos eu gwaith gwych gydag actorion anabl a/neu awtistig.

Roedden ni'n gyffrous cyhoeddi bod sioe Sister Act yn dod i Gaerdydd ac mai’r anhygoel Jennifer Saunders fydd yn Chwarae rhan Mother Superior a Brenda Edwards, seren ddisglair y West End, fydd yn chwarae rhan Deloris Van Cartier (rhan sydd wedi’i hail-ysgrifennu’n arbennig).

Sister Act

Roedden ni wrth ein boddau’n cyhoeddi bod cynhyrchiad Cameron Mackintosh o Les Misérables yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Mehefin 2021, yn dilyn galw mawr a rhediad llwyddiannus tu hwnt.

gwaith celf cynhyrchiad Les Misérables

Buom yn dathlu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg 7 Rhagfyr; cyfle i ni ymfalchïo yn ein gwasanaeth Cymraeg ac i atgoffa pawb o’r gwasanaeth Gymraeg rydyn ni’n ei gynnig i’n cwsmeriaid, ymwelwyr a’n staff. Cofiwch ddilyn ein ffrwd Twitter Cymraeg - @yGanolfan.

Cyn y Nadolig fe gyhoeddon ni rhagor o sesiynau hyfforddi radio, yn cychwyn 12 Ionawr. Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio unwaith yn rhagor â @radioplatfform ProMoCymru i gyflwyno'r hyfforddiant. I archebu lle ar y cwrs, anfonwch e-bost at radioplatfform@wmc.org.uk. Darganfyddwch fwy am Radio Platfform.

Dyn ifanc yn gweithio mewn stiwdio

Pleser pur oedd gweld ein cyd-gynhyrchiad, #TheBeautyParade ar restr y Gorau o 2020 gan @WalesArtsReview's. Gwelwch y rhestr lawn yma: https://www.walesartsreview.org/welsh-theatre-our-best-of-2020/

I gloi’r flwyddyn, fe gymeron ni wyliau Nadolig estynedig. Er bod ein hadeilad ar gau, rydyn ni’n parhau i weithio’n galed tu ôl y llen, i ddiogelu ein dyfodol a sicrhau ein bod yn tanio'r dychymyg a bod y celfyddydau yn hygyrch i bawb eu mwynhau.

Mae llu o brosiectau ar y gorwel ar gyfer 2021. Dymunwn Flwyddyn Newydd Dda i bawb!

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruMoondance Foundation a Garfield Weston, Paul Hamlyn FoundationThe Clive and Sylvia Richards Charity The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.