Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Nadolig Gyda Behind the Label

Ers mis Gorffennaf, rydyn ni wedi bod yn rhedeg prosiect theatr gymhwysol 18-wythnos o hyd gyda Theatre Versus Oppression a'r elusen digartrefedd, The Wallich.

Mae Behind the Label yn cefnogi oedolion sydd wedi dioddef anffodion fel digartrefedd, trawma, dibyniaeth a phroblemau iechyd meddwl.

Mae’r grŵp yn dysgu ystod eang o sgiliau theatr sy’n eu caniatáu nhw i greu, cynhyrchu a hyrwyddo eu cynhyrchiad theatr eu hunain o’r cychwyn cyntaf hyd nes y diwedd un.

I nodi diwedd y prosiect, bydd Behind the Label yn cyflwyno dau berfformiad byw yn y Stiwdio Weston o 13 – 14 Rhagfyr, lle gewch chithau’r cyfle i glywed y straeon gwir a gwrol ac ambell garol Nadolig, wrth iddyn nhw rhwygo’r labeli mae cymdeithas wedi gorfodi arnynt.

Fe siaradon ni gydag ambell aelod o’r grŵp ynglŷn â’u profiadau hyd yn hyn…

Fe siaradon ni gydag ambell aelod o’r grŵp ynglŷn â’u profiadau hyd yn hyn…

Tia

Tia (chwith) gyda Jules (dde)

Fe gofrestrais i gymryd rhan oherwydd roedd yn rhywbeth gwahanol i wneud ac roedd gen i awydd bod yn rhan o ddrama ers sbel, ac roedd y prosiect yma’n ein galluogi ni i ddewis beth oedden ni am wneud.

Mae’r prosiect yn dod i’r afael â gwaith tu ôl i’r llenni yn ogystal â’r perfformio ond mae’n well gen i fod ar y llwyfan ac mae wedi bod yn neis gallu rhannu ein straeon ein hunain.

Ni sy’n ysgrifennu’r sgript – nid rhywun arall – felly rydyn ni’n deall yr hyn rydyn ni’n ddweud.

"Giving someone a ‘homeless’ label affects them, so we shouldn’t always try and judge people."

Tia

Mae yna strwythur i’r perfformiad ond mae hefyd wedi gwella, ac rydyn ni’n ymhelaethu ar y stori yn naturiol.

Os oes gennym ni syniad cyffredinol o’r hyn rydyn ni’n siarad, mae’n haws – mae llai o bwysau ac mae’n llifo’n well os does dim angen i ni ddysgu’r geiriau.

Mae ein straeon ni gyd yn eitha’ tebyg, felly maen nhw gyd yn cydblethu. Mae popeth yn croesi ar hyd ei gilydd ac yn llifo’n dda.

Ond, y brif neges yw bod gorfodi labeli ar bobl yn eu heffeithio. Mae rhoi’r label ‘person digartref’ ar rywun yn ei heffeithio, felly dylwn ni drio ein gorau i beidio beirniadu pobl.

Jules

Jules

Dwi wedi bod yn dysgu ynglŷn â marchnata ac arfer gyda’r gwaith tu ôl i'r llenni a’r elfen dechnegol– dysgu am sain, troi nobiau a chymysgu desgiau, a oedd yn llwyth o hwyl.

Doeddwn i ddim yn meddwl y bydden i’n para mor hir â hyn i ddweud y gwir. Roedden i’n meddwl bydden i wedi gadael erbyn nawr, ond dwi wirioneddol yn mwynhau.

Mae yna griw grêt o bobl yma hefyd. Un o fentoriaid prosiect WISE y Wallich (Working in Sustainable Employment) a awgrymodd imi gymryd rhan felly rhoddais gynnig arni.

Dwi wedi dysgu llawer am fy hun ac mae wedi magu mwy o hyder ynof, a dwi wedi darganfod ei fod yn iawn dweud na wrth bobl hefyd, sy’n bwysig.

Shireen – Hwylusydd Theatre Versus Oppression 

Shireen

Mae wedi bod yn brosiect hir, ond mae wedi bod yn bleser gweithio arno. Mae pawb sydd wedi cymryd rhan wedi profi digartrefedd ar ryw lefel.

"The project is also very therapeutic with a level of self-help."

Shireen

Mae’n gyfle iddyn nhw allu dweud eu straeon ac i bobl feddwl ynglŷn â’r labeli mae cymdeithas yn gorfodi ar bobl sy’n byw ar y stryd, wrth i ni gerdded heibio nhw’n ddyddiol.

Mae’r prosiect hefyd yn therapiwtig gydag elfen o hunangymorth – gan edrych mewn i batrymau ymddygiad – y cyfan wrth weithio tuag at berfformiad byw ar y diwedd sy’n rhedeg am ddwy noson.

Mae’n storia o lygad y ffynnon, sydd ar adegau’n ddirdynnol ac i rai ohonynt, dyma'r tro cyntaf un iddynt siarad ag unrhyw un ynglŷn â’u profiadau. Ond mae llawer o gomedi a chaneuon hefyd, felly nid yw’n rhy drwm.

Tony

Tony

Mae fy stori yn cychwyn ar ddechrau fy mywyd hyd heddiw – o garchar i ddigartrefedd, trosedd, y goleuni a'r tywyllwch, y bobl dwi wedi cwrdd, a siwrne fy mywyd yn gyffredinol.

Dwi wedi dysgu sgil newydd, gwneud ffrindiau newydd a magu mwy o hyder yn ogystal â dysgu ynglŷn â golau a sain.

Dwi hefyd yn caru’r ochr gynhyrchu o theatr a gobeithio nawr y byddai’n gallu dod o hyd i gwrs arall fel yr un yma neu wneud ychydig o wirfoddoli.

Fe roddais gynnig ar fod yn dywysydd, trwy gysgodi un o’r tîm yma yn y Ganolfan, dangos pobl i'w seddi, ac mae’n rhywbeth hoffwn wneud eto.

Fe welais War Horse yma ym mis Gorffennaf ac roedd yn anhygoel. Yn gyffredinol, mae wedi bod yn gyffrous iawn gweld sut mae’r theatr yn gweithio a phob elfen o waith cefn llwyfan.

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at wneud y perfformiad ym mis Rhagfyr. Dwi ar bigau’r draen ond ddim yn rhy nerfus.