Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Red, Pink, and Blue light by Bruno Thethe

Galwad am Gymdeithion Creadigol

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd cyffrous, ystyrlon, cydnerth a democrataidd o weithio gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau, a dydy hynny heb bylu dim yn ystod y pandemig.

Gwrandewch ar recordiad sain o'r galwad yma

Gwyddwn y bod angen i ni roi artistiaid ac ymarferwyr creadigol wrth galon ein sefydliad, fel rhan ganolog o’r broses o ailadeiladu.

Rydyn ni eisiau creu lle i artistiaid ac ymarferwyr creadigol gael amser i feddwl, datblygu eu gwaith creadigol eu hunain ac arwain y sgwrs, ac mae cyllid o gronfa adferiad diwylliannol Cyngor y Celfyddydau (CCC) wedi ein galluogi i gyflymu'r cynlluniau yma.

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod yn creu hyd at chwe swydd Cymdeithion Creadigol amser llawn ar gontractau dwy flynedd ac ar gyflog o £25,000.

Mae yna opsiynau hyblyg o ran contractio, fe allech chi fod ar gyflog TWE neu'n llawrydd, fe allech chi hefyd weithio'n rhan amser neu'n amser llawn, ac fe wnawn ni eich cefnogi chi i siapio'r swydd yn y ffordd orau bosib.

Darganfyddwch fwy

Rydyn ni eisiau gweithio gydag ystod mor eang â phosib o Gymdeithion Creadigol o bob rhan o'r diwydiannau creadigol; artistiaid gweledol, artistiaid digidol, gwneuthurwyr gemau, gwneuthurwyr theatr, coreograffwyr, perfformwyr, cyfansoddwyr, sgwenwyr, ac yn y blaen.

Mae'r swyddi yma'n ymwneud â bod yn greadigol mewn ffyrdd newydd a chael cyfle i ddatblygu eich ymarfer creadigol eich hunan beth bynnag yw hynny.

Fel rhan o'n hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant, rydyn ni am gasglu data i'n helpu ni ddadansoddi gyda phwy yr ydym yn cydweithio, ac i fod yn fwy atebol am ein penderfyniadau. Gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r ffurflen hon er mwyn ein helpu ni ddeall cyrhaeddiad ac effaith y gwaith yr ydym yn ei wneud. Cedwir y data yn ddienw ac yn unol â rheolau GDPR.

Dyma bennod gyffrous i ni – sy'n dod ar gyfnod anodd i'n sector.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddarganfod ffyrdd newydd o weithio gyda’r garfan gyntaf o artistiaid ac ymarferwyr creadigol.

Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru sy'n cyllido rhan o'r gwaith hwn.