Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

CARNIFAL TREBIWT

Mae gan Garnifal Trebiwt hanes lliwgar a chyfoethog iawn. Ganwyd y carnifal yn Nociau Trebiwt yng nghanol y 1960au, a thyfodd yn gyflym i fod yn ganolbwynt i ddiwylliant Du yn ne Cymru.

Dros y degawdau mae’r carnifal wedi golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ond yr hyn sy’n para’n gyson dros y blynyddoedd yw’r teimlad o gymuned ac o berthyn.

Yn 2014, ar ôl seibiant o 16 mlynedd, dychwelodd y carnifal i strydoedd Caerdydd, ac unwaith eto daeth yn ganolbwynt i gymuned Trebiwt.

Mae Keith Murrell, un o’r trefnwyr, wedi bod yn mynychu’r carnifal ers ei blentyndod ifanc, ymhell cyn i’r dociau gael eu datblygu. Mae e wedi gweld y cyfan – o’r Mardi Gras cynnar, i’r fflotiau Caribïaidd a Pharêd y Maer, yn ogystal â'i deithiau i Notting Hill i wylio’r carnifal enwog yn Llundain.

Keith Murrell
Keith Murrell

Ac yntau wedi cymryd rhan ers 1982, mae Keith yn credu’n gryf bod y carnifal i bawb – dim ots beth yw eich hil na lliw eich croen. Dyma’r meddylfryd cymunedol sy’n gwneud Carnifal Trebiwt mor arbennig.

"Carnival can be all things to all people."

Keith Murrell

Ers degawdau, Canal Park yng nghanol Trebiwt yw cartref ysbrydol y carnifal. Fodd bynnag, mae gan Keith uchelgais i wneud y carnifal yn fwy hygyrch ac i adfer peth o’i dreftadaeth goll, drwy ddod â’r carnifal yn ôl i ardal y glannau, lle cychwynnodd flynyddoedd yn ôl.

CARNIFAL TREBIWT

Bydd carnifal eleni yn mynd yn ei flaen, ond fe fydd y fformat yn wahanol oherwydd y pandemig Coronafeirws a mesurau pellhau cymdeithasol. Er gwaetha’r newidiadau bydd y carnifal mor drawiadol ac ysblennydd ag erioed.

Mae tîm Carnifal Trebiwt yn aros am gadarnhad ynglŷn â dyddiadau ac amseroedd carnifal eleni. Byddwn yn eich diweddaru cyn gynted a daw’r newyddion.

Thema 2020 yw newid. Mae’r anawsterau diweddar wedi rhoi cyfle i artistiaid lleol adlewyrchu a rhoi cyfleoedd i bobl wneud pethau mewn ffordd wahanol. Y canlyniad yw gwisgoedd anhygoel.

CYMERIADAU’R CARNIFAL

Mae cymeriadau a gwisgoedd eleni wedi datblygu ar y cyd â storiâu hardd, gan adlewyrchu’r cyfnod cythryblus rydyn ni’n byw drwyddo.

Mae Flow, artist lleol, wedi bod yn creu gwisgoedd carnifal dros y tair blynedd diwethaf. Eleni, mae hi wedi cyfarfod artistiaid eraill sy’n cymryd rhan, ac wedi  cydlynu naratif cymhleth sydd wedi’i greu, ac ynddi nifer o gymeriadau gwahanol.

Ymhlith y cymeriadau hyn mae Imp, Blue Devils, Winds of Change, Lockdown Lucy, Bee Keepers, Billie Mar a rhagor…

Sylwch fod y gwisgoedd yn fwy o faint eleni – mae hwn yn benderfyniad pwrpasol, fel bod modd i bobl fwynhau'r gwisgoedd o bell, er mwyn cadw at fesurau pellhau cymdeithasol.

Mae gan bob cymeriad ei bersonoliaeth unigryw ei hun – mae ambell un yn dda, ambell yn chwareus ac ambell un yn ddrygionus, ac mae symbolaeth i’w weld ym mhob un.

“Everyone has a Blue Devil inside them so it’s about transformation.”

Flow
Blue Devils
Blue Devils

Creda Flow fod natur yn dangos y ffordd i ni ac yn ein dysgu nad ydyn ni’n gwybod y cyfan. Mae thema eleni yn trafod trawsnewid ac addasu – neges bwerus yn ystod y cyfnod ansicr yma.

Mae’r gwneuthurwr ffilmiau, Tim Short, hefyd wedi bod yn brysur yn ffilmio’r broses gyfan. Bydd ei ffilm, sy’n dangos rhai o brif gymeriadau ac artisitiad y carnifal, i’w gweld fel rhan o’r carnifal digidol arbennig ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Byddwn yn rhannu’r cyfan ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac fe fydd ar gael ar www.aman.cymru o 10am ymlaen.

NI a’r Carnifal

Dros y chwe blynedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn cefnogi Carnifal Trebiwt gyda chynllunio, llwyfannu, a drwy gynnig cefnogaeth dechnegol, yn enwedig gyda digwyddiadau sy’n cael eu cynnal dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst. 

Dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i’n tîm technegol, sydd wrth ei boddau’n mwynhau cerddoriaeth ac awyrgylch arbennig y carnifal.

Y llynedd, buon ni’n cydweithio â’r carnifal i gynnal cyfres o wleddoedd cymunedol, gyda Chymdeithas Celf a Diwylliant Trebiwt yn arwain ar guradu’r gerddoriaeth a’r perfformiadau.

Mae hwn wedi bod yn siwrne anhygoel i bawb sydd wedi cymryd rhan. Bu nifer o’r rheiny sy’n gyfeillion erbyn hyn yn perfformio yn ein gwleddoedd cymunedol cyn mynd ymlaen i berfformio ar lwyfan ein Theatr Donald Gordon, fel rhan o “Dy Gymru”, gŵyl gymunedol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Mae’r tîm technegol hefyd wedi helpu gyda chynnal gweithdai carnifal, fel rhan o’n gweithgareddau am ddim ar gyfer y teulu. Daeth y gweithdai â phobl at ei gilydd i greu celf ac addurniadau ac i rannu hudoliaeth y carnifal.

Yn draddodiadol mae’r carnifal yn dechrau fan hyn, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac mae ein staff wrth eu boddau, gyda nifer ohonynt yn cymryd rhan, yn gwisgo lan ac yn ymuno yn yr orymdaith.

Mae ein cartref yng nghalon Trebiwt, ac felly mae’r carnifal yn gydweithrediad naturiol rhyngom ni ar gymuned leol. Credwn yn gryf mewn cefnogi’r carnifal a dathlu ei ddiwylliant cyfoethog a lliwgar. Rydyn ni’n lwcus tu hwnt o gael y drysor yma ar ein stepen ddrws.