Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Carnival costumes

Gweithdai creu gwisgoedd carnifal

Fel rhan o Garnifal Butetown 2021 - sy'n cael ei chefnogi gan Ganolfan Mileniwm Cymru - mae artistiaid cymunedol yn arwain ar weithdai i greu gwisgoedd, penwisgoedd, ac ategolion ar gyfer parêd eleni.

Mae sesiynau’n cael eu cynnal ym Mhafiliwn Butetown ar Dumballs Road, o ddydd Mawrth - dydd Gwener bob wythnos ym mis Awst, ac yn Pedal Power ym Mharc Carafanau Caerdydd ar ddydd Sadwrn.

Mae'r gweithdai ar agor i unrhyw un 6+ ond bydd angen oedolyn gyda phob plentyn. Gall y sesiynau bod yn flêr, felly gwisgwch hen ddillad os gwelwch yn dda!

Bydd angen i chi ddarparu'ch enw a'ch rhif ffôn, a hefyd nodi pa sesiynau yr hoffech chi eu mynychu, ar gyfer protocol monitro ac olrhain Covid-19 y lleoliadau.

Gweithdai Pafiliwn Trebiwt

Os hoffech chi fynychu sesiynau Pafiliwn Trebiwt, bydd angen i chi gofrestru ymlaen llaw trwy e-bostio neu ffonio Pafiliwn Trebiwt ar butetownpavilionhub@cardiff.gov.uk neu 02922 330001.

4 Awst 3 - 5pm
5 Awst 9am - 2pm
6 Awst 9am - 2pm
10 Awst 1 - 5pm
11 Awst 3 - 5pm
12 Awst 9am - 2pm
13 Awst 9am - 2pm
17 Awst 1 - 5pm
18 Awst 3 - 5pm
19 Awst 9 - 11am
24 Awst 1 - 5pm
25 Awst 3 - 5pm
26Awst 9 - 11am
27 Awst 9am - 2pm

Gweithdai Pedal Power

Nid oes angen i chi gofrestru ymlaen llaw ar gyfer y gweithdai Pedal Power gan eu bod yn cael eu cynnal yn yr awyr agored. Felly, ar gyfer y sesiynau hynny gallwch droi i fyny ar y diwrnod.

7 Awst 11am - 12.45pm/ 1 - 2.45pm / 3 - 4.45pm
14 Awst 11am – 12.45pm / 1– 2.45pm/ 3 - 4.45pm
21 Awst 11am – 12.45pm / 1– 2.45pm/ 3 - 4.45pm
28 Awst 11am – 12.45pm / 1– 2.45pm/ 3 - 4.45pm