Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Diwali artwork

Dathlwch Diwali gyda ni

Mewn partneriaeth â Wales Tamil Sangam, mae dathliadau Diwali'n dychwelyd i lenwi ein hadeilad gyda goleuni, sain a phositifrwydd.

Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 13 Tachwedd o 4pm – 8pm yn ein cyntedd Glanfa ar gyfer digwyddiad am ddim llawn hwyl i'r teulu cyfan.

Gan addo awyrgylch wefreiddiol a chroeso cynnes fel yr arfer, bydd gŵyl y goleuni yn llenwi ein cyntedd gyda leinyp llawn cerddoriaeth a dawns, yn ogystal â chelf llawr rangoli a digonedd o weithdai crefft teuluol i chi ymuno â nhw.

Amserlen llawn

4pm  Croeso swyddogol gan Ganolfan Mileniwm Cymru a gweddi Wales Tamil Sangam – Kadavul Vazhthu  
Kalpana – Araith o groeso 
4.45pm  Aditya (canu)
4.50pm  Kayal (canu) 
5pm  Simon Sparkles (hud a lledrith) 
5.50pm  Anaya (gitâr) 
6pm  Megan (dawns grŵp Bharatanatyam plant)
6.10pm  Tushar (canu) - Grŵp Auvrav Disha 
6.15pm  Shriya (piano) 
6.20pm  Kavinya a Neha (dawns Shape of You) 
6.25pm  Megan (dawns)  
6.40pm  Tara (canu) 
6.45pm  Usha (dawns plant) 
6.55pm  Tripti - merch Samyukta (dawns) – Grŵp Auvrav Disha 
7.05pm  Tushar Bhosle - cân Bollywood 
7.20pm  Areithiau olaf a diolch 
7.30pm  Gorffen 

Diogelwch Covid
Rydyn ni wedi gweithredu sawl mesur diogelwch i sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â'r canllawiau llywodraethol a chelfyddydau perfformio diweddaraf. Darganfyddwch fwy yma.