Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Clwb Swper ym mis Awst

Mae gwledd o gabaret ar y gweill y mis Awst yma yn ein Clwb Swper, gyda nosweithiau comedi stand-yp, drag a theatr gerdd anhygoel. Dewch â'ch ffrindiau lawr i'r Bae am noson wych.

Drag, Nos Sadwrn 17 Awst

Gyda dim ond wythnos i fynd tan Pride Cymru, dewch i ddechrau dathlu'n gynnar gyda'n hoff artist drag ddwyieithog, Connie Orff. Bydd Connie'n croesawu cyflwynwr Pride Llundain, Michael Twaits i'r llwyfan.

Byddwn ni hefyd yn cyflwyno Venetia Blind a Laura Nadia Hunt felly bachwch fwrdd ar gyfer y noson ddanteithiol yma.

Comedi, Nos Sadwrn 24 Awst

Comedi sydd ar y gweill y nos Sadwrn yma. Bydd Leroy Brito yn arwain noson o chwerthin na ddylai neb ei cholli, yn cynnwys Clint Edwards, Esyllt Sears, Steffan Evans a Matt Rees.

Sioeau Cerdd, Nos Sadwrn 31 Awst

Gyda detholiad o ganeuon clasurol a chyfoes, ymunwch â David Mahoney, Vikki Bebb, Tom HierSteffan Rhys Hughes am noson fythgofiadwy o berfformiadau o fyd theatr gerdd.