Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Sita Thomas

CODI CYMRY CREADIGOL

Rydym ni’n falch iawn i gael cydweithio gyda’r  cwmni celfyddydol a theatr blaenllaw Fio, sydd wedi’i arwain gan ein Cydymaith Creadigol, Sita Thomas, i lansio CODI CYMRY CREADIGOL; rhaglen datblygu artistiaid blwyddyn o hyd gyda thâl.

Mi fydd yn canolbwyntio ar gefnogi’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol ar ddechrau eu gyrfa o bob oed sy’n byw neu’n dod o bob rhan o Gymru.

Bydd y rhaglen yn anelu i gefnogi 10 cyfarwyddwr a 10 cynhyrchydd i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfa. Bydd yr artistiaid yn cydweithio ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gŵyl yn ein Stiwdio Weston a gyda chynllunwyr perfformiadau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

“Rydyn ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda Sita, sydd wedi llunio rhaglen a fydd yn cefnogi artistiaid i ddod o hyd i’w llais a chreu lle iddyn nhw archwilio eu harfer. Rydyn ni’n creu carfan o unigolion a fydd, drwy ddysgu a thyfu gyda’i gilydd, yn cael eu grymuso i ffurfio dyfodol newydd a chyffrous.”

Emma Evans, ein Pennaeth Cynyrchiadau

Crëwyd CODI CYMRY CREADIGOL ar gyfer pobl greadigol ar ddechrau eu gyrfa dros 18 oed sy’n teimlo wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd ym myd y theatr a’r celfyddydau yng Nghymru.

Mae’r rhaglen yn arbennig o addas i rywun sy’n uniaethu ag unrhyw grŵp â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys ethnigrwydd, dosbarth, rhywedd, rhywioldeb, ac anabledd.

"Yn Llundain, fe elwais i ar raglenni fel Rhaglen Cyfarwyddwyr y Young Vic a Chyfarwyddwyr Artistig y Dyfodol gan Up Next. Heb y mentrau yma fyddwn i ddim yn Gyfarwyddwr Artistig heddiw. Yng Nghymru, hyd y gwn i, does dim byd ar y raddfa yma wedi bodoli o ran rhaglenni datblygu ar gyfer cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr. Mae’r ffaith ein bod ni’n talu cyfranogwyr yn ein gosod ni ar wahân i lawer o fentrau eraill."

Sita Thomas, Cyfarwyddwr Artistig Fio

Gwnewch gais heddiw

Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Mai 2022 tan fis Mai 2023. Mae ceisiadau nawr ar agor, a byddant yn cau ddydd Llun 4 Ebrill am 10yb.

Mae manylion llawn am y rhaglen a sut i wneud cais ar gael yma: https://www.wearefio.org.uk/codi-cymry-creadigol.

Mae CODI CYMRY CREADIGOL yn bartneriaeth rhwng Fio a Chanolfan Mileniwm Cymru, gyda chefnogaeth gan Stage Directors UK, Stage One, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Chylchgrawn Buzz.