Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cofio Syr Donald Gordon

Cofio Syr Donald Gordon – y dyn busnes o Dde Affrica a roddodd £10 miliwn tuag at adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru.

Bu farw Syr Donald Gordon, noddwr sefydlol Canolfan Mileniwm Cymru, ddydd Iau 21 Tachwedd 2019 yn 89 mlwydd oed.

Roedd Syr Donald Gordon yn entrepreneur, yn weledydd ac yn ddyngarwr a wnaeth gyfraniad enfawr i’r celfyddydau. Roedd y £10 miliwn a roddodd yn hael i’r Ganolfan ymhlith y rhoddion unigol preifat mwyaf i’w cyfrannu i’r celfyddydau yn y DU ar y pryd.

Dyma Gadeirydd Sefydlu a Llywydd Oes Canolfan Mileniwm Cymru, yr Arglwydd Rowe-Beddoe – cyfaill agos i Syr Donald – yn esbonio sut y daeth y dyn busnes o Dde Affrica i fuddsoddi swm mor fawr mewn canolfan gelfyddydau newydd sbon yng Nghymru:

“Roedd Syr Donald Gordon yn ffrind annwyl i mi – cwrddais ag e am y tro cyntaf yn y 1970au yn Ne Affrica. Roedd ei ddiddordeb yng Nghymru yn deillio o'i wybodaeth eang am Rorke's Drift. Roedd e’n llawn edmygedd o ddewrder y Cymry yn y frwydr honno.

"Gan wybod hyn, trefnais ymweliad i Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol yn Aberhonddu. Yn ystod swper, gafaelodd yn y Croesau Fictoria oedd yn cael eu cadw yn yr amgueddfa – roedd yn brofiad emosiynol a ddaeth ag ef yn agosach fyth at Gymru.

Syr Donald Gordon a’r Arglwydd Rowe-Beddoe tu mewn i Theatr Donald Gordon yn ystod adeiladu’r Ganolfan.

"Roedd Syr Donald yn hoff iawn o rygbi, ac aethom gyda’n gilydd i wylio Cymru’n chwarae yng Nghaerdydd ar sawl achlysur. Mawr obeithiaf ei fod wedi cael cyfle i ddathlu buddugoliaeth wych De Affrica yng Nghwpan Rygbi’r Byd!

"Roedd e hefyd yn hoff iawn o gerddoriaeth, a phan fydden ni’n treulio amser gyda’n gilydd byddai’n canu a minnau’n cyfeilio ar y piano.

"Roedd ganddo focs yn y Tŷ Opera Brenhinol ac yn mwynhau theatr, felly pan oeddwn i’n codi arian i roi Canolfan Mileniwm Cymru ar waith, Syr Donald oedd y person cyntaf i mi gysylltu ag ef.

"Adeiladodd Syr Donald fusnes yswiriant byd-eang, ac roedd datblygu eiddo yn rhan allweddol o hynny. Roedd e'n wybodus iawn am adeiladau, ac yn angerddol dros ei waith.

"Pan welodd Canolfan Mileniwm Cymru wedi ei chwblhau, roedd wrth ei fodd. Roedd yn meddwl y byd o’r adeilad – o’r cychwyn cyntaf hyd ddiwedd ei oes.

"Mae Syr Donald Gordon yn rhan bwysig iawn o hanes Canolfan Mileniwm Cymru, a heb ei gyfraniad hael ef yn y dyddiau cynnar, mae’n bosibl na fyddem wedi gallu sicrhau’r buddsoddiad enfawr a fu'n angenrheidiol i adeiladu’r Ganolfan.

"Mae’n gadael gwaddol ardderchog – canolfan gelfyddydau o safon fyd-eang – sy’n cael ei mwynhau gan filoedd o bobl bob wythnos."