Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Creu gyda'r gymuned

Byth ers i fi ddechrau gweithio gyda'n grwpiau cymunedol lleol, rydw i wedi bod yn breuddwydio am gynnal digwyddiad anhygoel dan arweiniad y gymuned yn Theatr Donald Gordon.

Wnaeth y grwpiau cymunedol ro'n i'n gweithio â nhw erioed gredu y byddai perfformio neu wirfoddoli yma yn bosib. Dyma'r ddau beth ro'n i am eu newid o'r dechrau.

Yn ystod fy nghyfweliad swydd, fe drafodon ni y 'rhwystrau sy'n atal ymgysylltu' neu sut i alluogi pobl i ddod yma a phrofi'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

Gemma Hicks
Gemma Hicks

Siaradon ni gryn dipyn am bwysigrwydd cael profiad gyda'n gilydd, a phwysigrwydd bwyd da a hygyrchedd gwych. Y canlyniad oedd bod angen llais y gymuned wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud.

Felly, aeth fy mhrosiect cyntaf ati i gyfuno hyn i gyd ar ffurf gwledd gymunedol.

Mae pawb yn hoffi bwyta, ac roedd yn ffordd wych o gael pobl i fewn drwy'r drysau i ddod at ei gilydd, dathlu gwahaniaeth ac amrywiaeth, a gwneud ffrindiau newydd.

Wasteless African Supper Clwb
Wasteless African Supper Clwb

Mae'r bwydlenni'n cael eu dylunio gan gymunedau, yr addurniadau'n cael eu creu mewn sesiynau galw heibio ledled Caerdydd a'r Cymoedd, a'r perfformiadau anhygoel, o ddawnsio i ganu, o gerddoriaeth i garnifal, yn cael eu harwain gan y gymuned.

Wnes i ddim deall pa mor bwysig fyddai'r gwleddoedd yma pan ddechreuon nhw, ond mae cyfeillgarwch wedi datblygu, ac mae mwy a mwy o bobl yn dod yma erbyn hyn ac yn ymwneud â ni am y tro cyntaf. Ac mae'n wych.

I didn’t realise how important these banquets would become when they first began but new friendships have developed, and more and more people are now coming here and getting involved with us for the very first time and it’s fantastic.

Hyd yma rydyn ni wedi cynnal Gwledd Ddiwastraff, Gorymdaith Llusernau Cymunedol, a Gwledd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, ac roedd y tri yn llwyddiant ysgubol.

Roedden ni wedi trefnu digwyddiad arall ar gyfer yr haf, ac felly rydw i'n gweithio gyda'r gymuned a'n partneriaid i weld sut gallwn ni greu fersiwn ddigidol ar-lein, er mwyn dod at ein gilydd yn ystod cyfyngiadau symud y coronafeirws.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydw i wedi mwynhau gweld pobl yn cydweithio ac yn creu gwaith gyda'i gilydd, ac rwy'n falch o ddweud bod ganddon ni dîm o wirfoddolwyr cymunedol erbyn hyn, sy'n helpu i wireddu'r digwyddiadau yma ac yn cefnogi'r gwaith o'u cynllunio ar bob cam.

Rydyn ni hefyd yn rhoi mynediad i bobl at docynnau cymunedol fforddiadwy, ac yn cael cyfle i gefnogi cogyddion ein gwleddoedd gyda chyfleoedd mentora a gwaith.

Jannat yn siarad yn ystod gwledd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Jannat yn siarad yn ystod gwledd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Rydyn ni wedi agor ein Perfformiadau Cymunedol yn y Lanfa er mwyn i grwpiau rannu ac arddangos eu gwaith, ac rydyn ni'n cynnal llawer o ddigwyddiadau a dathliadau yn ein gofodau cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn.

Rydw i wedi gweld y perthnasau rhwng y Ganolfan a chymunedau yn newid wrth i ni ganfod mwy o gyfleoedd i wrando.

Datblygodd cymunedau eu lleisiau a'u sgiliau, tyfodd eu dyheadau, a dechreuon nhw greu gwaith proffesiynol yn y Lanfa ac yn ein bar Cabaret, Ffresh, fel rhan o'n nosweithiau perfformiadau Gwaith ar Waith. Yna ym mis Mawrth, wynebon ni'r her fwyaf eto...

Dy Gymru

Roedd Dydd Gŵyl Dewi yn agosáu, ac roedd slot rhydd prin gan y theatr, felly penderfynon ni wahodd pawb i ddod at ei gilydd i berfformio yma ar un o lwyfannau theatr mwyaf y byd - digwyddiad o'r enw 'Dy Gymru'.

Ar 1 Mawrth 2020, rhwng 3pm a 8pm, croesawodd y Ganolfan 19 grŵp cymunedol ynghyd â thros 2000 o bobl, a alwodd heibio drwy gydol y diwrnod i rannu eu gweledigaeth o'r hyn roedd Cymru'n ei olygu iddyn nhw.

Roedd hyn yn bell o fod yn hawdd, ond fe lwyddon ni. Ac roedd y canlyniad yn anghredadwy. Gwelon ni berfformiadau anhygoel o freg-ddawnsio, drymio, cerddoriaeth werin, corau lleol, dawnsio Tamil a phob math o bethau eraill.

Grŵp ddawns Tamil lleol
Grŵp ddawns Tamil lleol

Gan fod y digwyddiad mor llwyddiannus, rydyn ni wedi ymrwymo i'w gynnal bob blwyddyn.

Ond dim ond y dechrau yw hyn, alla i ddim aros i weld lle bydd ein hysbryd cymunedol bywiog yn mynd â ni nesaf.

Mae digonedd o brosiectau cyffrous ar y gweill, mwy o berfformiadau i ddod, mwy o wleddoedd blasus, a chyweithiau hwyliog gyda Charnifal Butetown yn ystod y misoedd nesaf. Efallai y gwela i chi yno.

Gemma

Os hoffech chi gymryd rhan neu gefnogi ein gwaith gyda chymunedau, anfonwch e-bost ata i drwy communities@wmc.org.uk

Helpwch ni i barhau â'n gwaith cymunedol a chreadigol

Mae sawl ffordd i chi ein cefnogi