Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Creu Theatr Gynhwysol

Dyma Farshid Rokey, yr actor sy’n dychwelyd i chwarae rhan Hamed Amiri yn The Boy with Two Hearts yn yr Hydref, yn myfyrio ar sut mae creu theatr sy’n fwy cynhwysol.

Mae’r ddrama - sy’n seiliedig ar y llyfr gwreiddiol gan Hamed Amiri - yn adrodd stori wir y teulu Amiri. Newidiodd bywydau’r teulu am byth pan fu raid iddynt ffoi o Affganistan yn 2000 a chael lloches yng Nghaerdydd.

Actor Farshid Rokey
Farshid Rokey fel Hamed Amiri yn The Boy with Two Hearts (2021)

Pan oeddwn i’n tyfu fyny, roeddwn i’n meddwl am theatrau fel adeiladau na faswn i fyth yn ddigon da i fynd iddynt.

I mi, roedd theatr yn symbylu system dosbarth nad oeddwn i’n rhan ohoni. System dosbarth a oedd yn well na’r hun yr ystyriwyd fi a fy nheulu.

Ges i fy swydd theatr gyntaf yn 2010, a dyna’r tro cyntaf erioed i mi fynd i mewn i theatr. Roeddwn i’n teimlo’n gwbl anghyfforddus.

Yn ystod y rhag-ddangosiad cyntaf, edrychais allan at y gynulleidfa, a theimlais na faswn i’n perthyn yno, ac unrhyw bryd fues i’n eistedd yn y gynulleidfa, teimlais fy mod i’n cael fy meirniadu, neu teimlais fy mod i ddim yn haeddu bod yno.

Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, dw i wedi clywed am y ‘syniad’ o gynhwysiant a pha mor bwysig yw creu theatr hygyrch. Os ydw i’n bod yn onest, teimlais mai siarad mawr oedd hyn - pobl yn ceisio dangos eu bod nhw’n poeni am greu newid, ond doedden nhw ddim wir yn poeni.

Roedd y rhethreg 'mae’n rhaid i ni barhau i gael y sgyrsiau anodd yma' yn cymryd lle unrhyw weithredoedd pendant a allai sicrhau newid. Roedd yn esgus, i ddweud ‘ie, dw i’n gwrando’, ond heb yr angen i wneud unrhyw beth yn ei gylch.

Wrth i amser fynd heibio a finnau’n rhan o gynyrchiadau theatr llwyddiannus, doeddwn i ddim yn gweld unrhyw newid i’r demograffig o fynychwyr theatr. Roedd y ‘syniad’ bod theatr yn ‘gynhwysol’ yn chwedl roedd theatrau yn ei ddefnyddio i sicrhau cyllid.

Doedden nhw ddim wir eisiau newid. Roedden nhw’n dweud y pethau yma er mwyn gwneud i’w hunain a’i theatrau edrych yn dda, ond doedden nhw ddim wir eisiau newid. Cafodd y meddylfryd yma ei atgyfnerthu droeon.

Y tîm yn yr ystafell ymarfer (2021)

Gweithiais yn yr ystafell ymarfer efo phobl eraill oedd yn edrych fel fi ac yn siarad fel fi

Yn ystod ymarferion The Boy with Two Hearts, roeddwn i’n gweithio mewn ystafell ymarfer gyda phobl oedd yn siarad fel fi ac yn adlewyrchu ochr amlddiwylliannol y DU yr ydyn yn byw ynddi.

Meddyliais yn dawel, mae hwn yn wahanol, yn ddiddorol, yn gyffrous. Pwy fydd yn dod i weld y sioe? Doeddwn i methu ateb, oherwydd am y tro cyntaf erioed, doeddwn i ddim yn gwybod.

Cerddais allan ar y noson gyntaf, a chyn dweud y llinell agoriadol, oedais. Edrychais ar y rhes flaen, a doeddwn i methu credu’r peth. Dynes mewn hijab gyda thair dynes arall mewn hijabs.

Edrychais i’r dde a gwelais grŵp o fechgyn tebyg i mi, yn gwenu’n ôl arna i, fel petaent yn dweud eu bod nhw’n gefn i ni ac yn hapus i weld rhywun tebyg iddyn nhw ar y llwyfan yn gwneud ei waith.

Ai dyma’r ddrama i roi cychwyn ar newid?

Myfyriais ar hyn a syllais ar fy esgidiau. Gofynnais i’m hun “ydyn ni wedi’i wneud o? Ai dyma’r ddrama sy’n gallu rhoi cychwyn ar newid?” Teimlais mai noson lwcus oedd hi. Ond nid dyna oedd hi.

Ym mhob sioe, edrychais allan at y gynulleidfa a ges i fy siomi ar yr ochr orau. Mae gwirionedd y byd go iawn wedi cyrraedd byd mewnol y theatr. Doeddwn i methu credu fy lwc. Dyma newid go iawn a dyfodol y theatr.

Shamail Ali, Ahmad Sakhi, Farshid Rokey
Shamail Ali, Ahmad Sakhi a Farshid Rokey fel y brodyr Amiri (2021)

Sut ddigwyddodd hyn? Sut wnaethon ni lwyddo ar yr achlysur hwn? Beth yw’r fformiwla i ailadrodd y llwyddiant yma, y gallai pobl eraill ddysgu ohono?

Yn gyntaf, mae’n cychwyn gyda’r ysgrifennu. Y stori. Dweud stori oesol sy’n torri ffiniau hil, crefydd a statws economaidd-gymdeithasol.

Mae’n rhaid i’r stori gael thema sy’n berthnasol. Gyda The Boy with Two Hearts, y thema oesol oedd teulu a gobaith. Dim ots pwy ydych chi yn y gynulleidfa, mae’r thema oesol yma yn eich cyffwrdd.

Yn ail, ac i mi, y peth mwyaf pwysig, yw castio. Mae cysylltiad rhwng aelodau cast yn rhywbeth na allwch chi esgus. Unai mai gan gwmni gemeg neu ddim.

A finnau wedi gweithio ar ddramâu eraill yn ymwneud ag Affganistan, The Boy with Two Hearts, i mi, yw’r sioe fwyaf gwir, fwyaf cryf o ran cysylltiad.

Roedd awduron, actorion a cherddorion Affganaidd oll yn yr un ystafell, yn ymateb i ymwybyddiaeth/isymwybod yr oeddent oll wedi byw drwyddo.

Shamail Ali, Dana Haqjoo, Géhane Strehler, Ahmad Sakhi a Farshid Rokey (2021)

Daeth yr actorion a gymaint o’u profiadau bywyd a’u gwirionedd eu hunain i wneud y cynhyrchiad yn berthnasol i gynulleidfa fwy ac amrywiol. Roedd gwaith a manylder yr actorion yn dod â’r cyfan yn fyw.

Dw i’n meddwl bod hyn yn dod o’r ffaith fod yr actorion yn gwybod bod ganddynt gyfrifoldeb fel cynrychiolwyr y diwylliant hwn. Roedd y castio yn driw i ddiwylliant yn helpu gosod y naws ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan. Teimlodd y gynulleidfa hon i’r byw.

Yn olaf, dw i’n meddwl bod gwerth tynnu sylw at y gwaith marchnata a wnaed gan Ganolfan Mileniwm Cymru ond hefyd gan Hamed a Hessam Amiri.

Roedden nhw wir ar y rheng flaen yn gwthio cynulleidfaoedd amrywiol i ddod i weld y ddrama. Fe wnaeth wahaniaeth go iawn cael dau unigolyn fel yna ar y rheng flaen.

Two Afghan men stood smiling for a photograph
Y brodyr Hessam a Hamed Amiri

Credais am flynyddoedd bod y nod o gynhwysiant allan o afael ac yn amhosib. Teimlaf mai The Boy with Two Hearts yw’r stori sy’n gallu tanio’r fflam a gwneud y nod yn bosib.

Rydw i wedi gweld hyn, mae’r cast wedi ei weld ac mae’r adeilad wedi’i weld. I ddyfynnu Emma Evans (Pennaeth Cynyrchiadau, Canolfan Mileniwm Cymru) “Dyma’r gynulleidfa fwyaf amrywiol yr ydyn ni erioed wedi’i chael.”

The Boy with Two Hearts
12 – 17 Medi, Tŷ Dawns, Caerdydd
Gwerthwyd Allan
1 Hydref – 12 Tachwedd, National Theatre, Llundain
Dod o hyd i docynnau