Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Chwilfrydig?

Mae Perfformiadau i'r Chwilfrydig yn dymor o theatr gyfoes sy'n deffro'r meddwl, theatr fydd yn gwneud i chi chwerthin a chrio, comedi, cabaret, anthemau i godi'r to, perfformiadau anffurfiol a digon o ddisgleirdeb.

Dyma flas bach ar yr hyn sy'n digwydd drwy gydol ein tymor Chwilfrydig sy'n rhedeg o Hydref 24 - 31 Rhagfyr.

Chwilfrydig am rywedd...

Tuck

24 Hydref – 3 Tachwedd 2018

Bydd ein tymor Chwilfrydig yn cychwyn gyda Tuck, stori dwymgalon wedi'i hysgrifennu gan Alun Saunders (Connie Orff) ynglŷn â marwolaeth Brenhines Drag mwyaf dylanwadol Caerdydd, Patsy Thatcher. Barod am gomedi, gorfoledd a galar, a digon o ganeuon ac anthemau i godi'r to?

Tuck

Bullish

20  – 24 Tachwedd 2018

Bullish

Gan y bobl y tu ôl i'r llwyddiant ysgubol, Joan, mae Milk Presents yn cyflwyno Bullish, drama fytholegol newydd sy'n llywio'r ffordd drwy diroedd newydd ym maes rhywedd traws-wrywaidd a hunaniaeth.

Dilynwch Asterion (Minotar hynafol Creta sy'n sychedig am waed) ar ei odyseia cabaret brofoclyd a hwyl. Bydd eich syniadau am finotariaid yn newid am byth.

Chwilfrydig am gomedi a cabaret...

3 Dads

16 a 17 Tachwedd 2018

Leroy Brito

Yn dilyn Butetown’s Finest, ei berfformiad hynod lwyddiannus yn 2017, mae Leroy yn dychwelyd gyda'i sioe newydd sbon sy'n bwrw golwg bersonol ar ei brofiad o fod yn dad gan gofio tri dyn gwahanol - 18, 24 a 34 oed - ei oedran pan aned pob un o'i blant.

Ar hyd y ffordd mae'n ystyried yr heriau cyffredinol o fod yn dad a'r gwahaniaethau drwy lygaid tair fersiwn wahanol o'i hun, felly byddwch yn barod am lond bol o chwerthin. 

Mary Bijou

14 Rhagfyr 2018

Mary Bijou

Dyma strafagansa Nadoligaidd flynyddol Mary Bijou yn ei hôl! Dechreuwch dymor y partïon Nadolig mewn steil ac ymunwch â ni am noson o gabaret gaeafol a chomedi amheus am Siôn Corn.

Gwisgwch eich hetiau Nadolig mwya' gwyllt a byddwch yn barod am noson o gabaret gaeafol, chwerthin llond eich bol a chomedi amheus gan Siôn Corn gyda champau anhygoel i'ch rhyfeddu, gan gynnwys hwla hwpio, cerdded ar ddwylo ac acrobateg Nadoligaidd.

Chwilfrydig am theatr gerdd...

The Last Five Years

9 – 17 Tachwedd 2018

Daw The Last Five Years gan y cyfansoddwr a'r sgriptiwr arobryn Jason Robert Brown i Gymru mewn cynhyrchiad teithiol newydd sbon gan Gynyrchiadau Leeway. 

Gan olrhain perthynas pum mlynedd rhwng Cathy a Jamie yn Efrog Newydd, dyma stori fydd yn cyffwrdd â’r galon gyda digon o ganeuon bachog a drama i'ch cadw chi ar flaenau eich seddi o'r cychwyn cyntaf hyd at y diwedd un.

Icons

18 – 22 Rhagfyr 2018

Icons

Mae’r seren cabaret a’r carwr lycra glamoraidd, Le Gateau Chocolat, yn ffrwydro ar lwyfan Caerdydd gyda’i waith diweddaraf, Icons.

Gan ddawnsio rhwng dau bersona, un cyhoeddus ac un preifat, mae Le Gateau Chocolat yn dod i’r afael â’r bobl, yr eiliadau, y perthnasau a’r gelf sydd yn ein llunio ni a’r delfrydau rydyn ni’n dyheu amdanynt.

 chyfeiliant band byw, mae Gateau yn galw ar gymysgedd eclectig o gerddoriaeth: pop, opera, roc; Kate Bush, Whitney, Meatloaf, Pavarotti a mwy... 

Chwilfrydig am jazz...

Clifford Brown/Max Roach Revisited

8 Tachwedd 2018

Clifford/Brown Revisited

Daw rhai o gerddorion jazz gorau Caerdydd at ei gilydd i archwilio treftadaeth gyfoethog o steiliau cerddorol sêr mwya' hanes jazz, Clifford Brown a Max Roach gan ail-ddychmygu eu cerddoriaeth a'i gyfuno gyda threfniannau cyfoes a synau'r oes sydd ohoni er mwyn dod â sain y 1950au i mewn i'r ganrif hon a thu hwnt.

Mae'r pedwarawd yn cynnwys Gethin Liddington ar y trwmped ar flugelhorn, Dave Jones ar y piano, Donald Sweeney ar y bas ac Ian Poole ar y drymiau. 

Fraser and the Alibis

22 Tachwedd 2018

Fraser and the Alibis

Gan ddwyn ysbrydoliaeth o synau sacs mawr Dexter Gordon ac organ byddarol Jimmy Smith, mae'r band o bedwar yma o Lundain yn chwarae cerddoriaeth wreiddiol gyda dylanwadau pwerus. 

Gan dalu teyrnged i 'Sam Butera and the Witnesses', mae Fraser and The Alibis yn sianelu
dwyster a hwyl cerddoriaeth swing cyfnod y neuadd ddawns, wedi’i gyfuno â symudiadau cerddoriaeth Jazz ddiweddarach.

Chwilfrydig am straeon...

Duckie

20 – 31 Rhagfyr 2018

Duckie

Ac  i goroni'r cyfan mae Duckie, stori am oddefgarwch gyda'r seren cabaret mawr ei glod, Le Gateau Chocolat.

Mae Duckie yn gweld stori dylwyth teg Hans Christian Anderson, The Ugly Duckling, ar ei newydd wedd gyda Le Gateau yn dod o'i gragen gyda neges o hunangariad i blant. 

Wedi'i osod mewn syrcas i anifeiliaid, rydyn ni'n ymuno ag ef am stori glasurol am hunaniaeth a ffeindio'ch lle yn y byd.  

Mae gennym ni ddigon o berfformiadau cynorthwyedig hefyd; o hygyrchedd BSL i berfformiadau ymlaciedig a sioeau wedi'i sain ddisgrifio.

Defnyddiwch y chwiliwr ar y dudalen Digwyddiadur i'ch helpu chi ddod o hyd i berfformiad sy'n eich siwtio chi.

I wybod mwy, ymgollwch yn ein tudalen digwyddiadau Perfformiadau i'r Chwilfrydig.