Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Seven cast members of Anthem standing together outside Wales Millennium Centre

Cwrdd â'r Cast: Anthem

Dewch i gwrdd â chast Anthem, ein comedi gerddorol newydd ym myd ffeinal byw cystadleuaeth ganu ar y teledu. Beth all fynd o'i le?

Anthem yw ein cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru gyntaf yn 2022, wedi'i ysgrifennu a'i gyd-gyfansoddi gan Llinos Mai a'i gyfarwyddo gan Alice Eklund. Wedi'i pherfformio yn Gymraeg, mae'r sioe yn addo comedi, caneuon bachog a ffrwydrad sgleiniog enfawr o hud.

Dilynwch ein cast ensemble o actorion a chantorion comedi ar gyfryngau cymdeithasol i weld yr helynt tu ôl i'r llen wrth iddyn nhw baratoi at Anthem, sy'n ymddangos ar 20 – 30 Gorffennaf.

Cwrdd â'r cast

Iestyn Arwel

Iestyn Arwel – Leon

Mae Iestyn yn chwarae Leon, cystadleuydd Anthem sy'n cynrychioli rhanbarth y De. Mae Iestyn o gefn gwlad gorllewin Cymru a hyfforddodd yn y Drama Centre London. Mae e wedi ymddangos yn y ffilm fer The List, a enillodd wobr BAFTA Cymru, Burn, Burn, Burn gan Netflix, a London Irish ar Channel 4, yn ogystal â Rownd a Rownd, Pobol y Cwm a 35 Awr ar S4C, tra'n hefyd gweithio'n eang yn y theatr ar draws y DU.

Lily Beau Conway

Lily Beau Conway – Esyllt

Mae Lily yn chwarae Esyllt, un hanner o ddeuawd brawd a chwaer Anthem sy'n cynrychioli rhanbarth y Gorllewin yn y ffeinal. Astudiodd Lily gyda East London Arts and Music ac mae'n rhyddhau cerddoriaeth ddwyieithog dan yr enw Lily Beau. Cydweithiodd gyda'r cerddor Eädyth ar y thema ar gyfer ailagor y Senedd drwy gyd-gyfansoddi cân a'i berfformio ar gyfer y Frenhines. Mae Lily hefyd wedi gweithio ym myd teledu ar S4C a Channel 4, a chymerodd ran yn Tony Visconti's Unsigned Heroes (Sky Arts).

Gareth Elis

Gareth Elis – Eifion

Mae Gareth yn chwarae Eifion, hanner arall y deuawd brawd a chwaer o Orllewin Cymru. Hyfforddodd Gareth Elis yn Guildford School of Acting (Musical Theatre). Mae wedi ymddangos mewn cynyrchiadau i Theatr Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Cameron Mackintosh, Arad Goch, Leeway Productions a Illumine Theatre. Credydau teledu yn cynnwys In My Skin (BBC Three/BBC Cymru), Mabinogi-Ogi (S4C) a The Light/Y Golau (Channel 4/S4C). Mae hefyd yn rhan o dîm cyflwyno Stwnsh ar S4C.

Leila Hughes

Leilah Hughes – Megs

Mae Leilah yn chwarae Megs, cynorthwyydd cynhyrchu dibrofiad sy'n cael ei thynnu fewn ar y funud olaf i weithio ar Anthem. Ganwyd a magwyd Leilah yn Abertawe, ac mae hi wedi bod yn actio ers oedran ifanc yn dilyn hyfforddiant gyda Mark Jermin. Mae ganddi angerdd dros ddrama cyfrwng Cymraeg, gyda phrofiad o actio ym Mhobol y Cwm a Gwaith/Cartref. Mae Leilah hefyd wedi ymddangos yn In My Skin, Doctor Who a Torchwood gan y BBC.

Rhian Morgan

Rhian Morgan – Teleri

Mae Rhian yn chwarae Teleri, cystadleuydd Anthem sy'n cynrychioli rhanbarth y Dwyrain. Mae profiad Rhian ar y teledu yn cynnwys Casualty (BBC), Un Bore Mercher (BBC/S4C), Pethau Bychain (Joio), Gwaith/Cartref, Sioe Caryl Parry Jones ac A Small Country (S4C), a Stella (Sky). Mae ei phrofiad diweddar ar y llwyfan yn cynnwys Merch yr Eog (Theatr Genedlaethol Cymru/Teatr Piba), The Harri-Parris: The Big Day (Mai oh Mai) a Mother Courage (National Theatre Wales).

Gwydion Rhys

Gwydion Rhys – Tudur

Mae Gwydion yn chwarae Tudur, cyflwynydd hynod broffesiynol Anthem. Mae profiad Gwydion yn y theatr yn cynnwys Blue (Chippy Lane Productions), The Wood a One Man Two Guvnors (Torch Theatre), American Nightmare a Hela (The Other Room), Only The Brave (Canolfan Mileniwm Cymru) a Thir Sir Gâr (Theatr Genedlaethol Cymru). Mae e hefyd wedi gweithio'n eang ym myd deledu ar Channel 4, y BBC ac S4C.

Rhys ap Trefor

Rhys ap Trefor – Gerard

Mae Rhys yn chwarae Gerard, cystadleuydd Anthem o ranbarth y Gogledd. Mae Rhys wedi gweithio ym myd theatr, ffilm a theledu (BBC ac S4C). Mae e wedi gwneud gwaith lleisio ar gyfer y gemau cyfrifiadur Assassin's Creed Valhalla a Bravely Default II (Side UK), ac ar gyfer yr animeiddiadau Ar Goll yn Oz, Olobob Top a Toot ar gyfer S4C. Mae ei brofiad radio hefyd yn cynnwys tair cyfres o The Harri-Parris, hefyd wedi'u hysgrifennu gan Llinos Mai.


Anthem

Stiwdio Weston 20 – 30 Gorffennaf

Mae Anthem yn gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru.

Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Peter a Janet Swinburn a Dr Carol Bell am gefnogi Anthem, a hefyd i'r Garfield Weston Foundation a Chyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi ein cynyrchiadau yn ystod 2021/22.

Darganfyddwch fwy am gefnogi ein cynyrchiadau a'n gwaith creadigol ar draws Cymru drwy ddod yn aelod o'n Cylch y Cadeirydd.