Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyfleoedd i Artistiaid, Gwanwyn 2020

Yn ystod gwanwyn 2020, bydd nosweithiau gwaith ar waith yn dychwelyd, bydd cynhyrchwyr annibynnol ac artistiaid hunan-gynhyrchu yn gallu ymuno â set dysgu gweithredol, a bydd Swyddfa Agored yn mynd ar daith!

Nosweithiau Gwaith ar Waith Ffwrnes

Mae Nosweithiau Gwaith ar Waith Ffwrnes yn gyfle i roi cynnig ar syniadau newydd, arddulliau newydd, a chysyniadau crai o flaen cynulleidfa yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru.

Rydyn ni am i unigolion a chwmnïau wneud cais gyda syniad efallai na chaech chi gyfle i'w brofi o flaen cynulleidfa fel arall. Mae'n bosib y byddwch wedi gwneud ychydig o waith ar y syniad eisoes, neu efallai ei fod yn hollol newydd.

Fel o'r blaen, bydd y gynulleidfa ar y noson yn 'talu fel y mynnant', a bydd pob ceiniog o'r arian a wneir yn mynd yn uniongyrchol at yr artistiaid a oedd yn rhan o berfformiad y noson honno.

Bydd Nosweithiau Gwaith ar Waith Ffwrnes yn cynnwys tair noson â thema, a dwy noson ar hap lle mae croeso i unrhyw beth! Byddwn yn gweithio gyda rhwng 5 ac 8 cwmni neu unigolyn, yn ddibynnol ar y ceisiadau y byddwn ni'n eu derbyn.

Themâu gwanwyn 2020 yw: Llais Menywod, Cyfathrebu a Chyfrinachau.

Ynghyd â'r holl arian a wneir ar y noson, bydd yr artistiaid sy'n rhan o gyfres gwanwyn 2020 yn cael cynnig sesiynau cyngor pwrpasol a gofod ymarfer yn y Ganolfan yn ystod y cyfnod cyn eu noson gwaith ar waith, ynghyd â chefnogaeth dechnegol ar y noson gan ein tîm i ganiatáu iddyn nhw wneud y mwyaf o'r cyfle.

Bydd ceisiadau'n cau ar 10 Chwefror.

Set Dysgu Gweithredol ar gyfer Cynhyrchwyr ac Artistiaid Hunan-gynhyrchu

Yn ystod 2020, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal set Dysgu Gweithredol ar gyfer Cynhyrchwyr Annibynnol ac Artistiaid Hunan-gynhyrchu.

Mae Dysgu Gweithredol yn caniatáu i grŵp o unigolion fynd ati i drafod a meddwl am y problemau maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd, a chanfod atebion creadigol i'r problemau yma.

Mae'n rhoi cyfle i bobl gamu y tu hwnt i bwysau eu rôl broffesiynol, ac edrych ar bethau o safbwynt gwahanol.

Bydd y grŵp yn cael ei ddewis ar ôl proses ymgeisio drwy alwad agored, a bydd y gyfres o chwe sesiwn yn dechrau ym mis Mawrth 2020.

Bydd rhagor o wybodaeth am y broses a'r cais ar gael yn fuan.

Bydd ceisiadau'n cau ar 17 Chwefror 2020.

Ymestyn prosiect Swyddfa Agored

O'r diwedd, rydyn ni'n ymestyn ein prosiect Swyddfa Agored, gan gynnig cyfle i fwy o artistiaid gwrdd â'n cynhyrchwyr i drafod a chynnig syniadau, a chael cyngor proffesiynol ar ddatblygu a llwyfannu eu gwaith.

Bydd cyfle i sgwrsio â Glesni Price-Jones, ein Swyddog Cyswllt Datblygu Artistiaid, a Peter Darney, rhaglennydd Ffresh, yn y Ganolfan. Mae Swyddfa Agored hefyd am fynd ar daith yn 2020, gan ymweld â sefydliadau celfyddydol eraill ledled Cymru, a bydd yn dechrau yng nghanolfan Pontio ym Mangor ar 17 Ionawr (1-5pm yn y Caffi).