Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Group shot of our Creative Associates sitting down smiling

Cyflwyno ein Cymdeithion Creadigol

Mae’n bleser gennym gyflwyno ein carfan gyntaf o Gymdeithion Creadigol. Mae’r grŵp deinamig yma o wyth o artistiaid ac ymarferwyr yn ymuno â’n tîm ar adeg hollbwysig yn ein hanes, wrth i ni ddod allan o’r pandemig a dechrau ailadeiladu gyda gweledigaeth newydd.

Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i roi artistiaid wrth galon popeth a wnawn, ac i weithio mewn ffyrdd ystyrlon, gwydn a democrataidd. Bydd ein Cymdeithion Creadigol yn helpu llywio ein gweledigaeth ac yn arwain y sgwrs, tra hefyd yn cael yr amser a’r gofod i ganolbwyntio ar eu hymarfer creadigol eu hunain.

Wrth alw am geisiadau yn gynharach eleni, ein nod oedd dod o hyd i artistiaid o bob rhan o’r diwydiannau creadigol. Roedden ni wrth ein boddau’n derbyn nifer digynsail o geisiadau o safon eithriadol, cyn mynd ati i greu rhestr fer a dethol ein grŵp.

Fel sefydliad rydyn ni am weithio mewn ffyrdd newydd gyda’r garfan gyntaf yma. Byddwn yn dod i adnabod y grŵp yn dda dros yr wythnosau nesaf, felly cadwch lygad ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol am fanylion. Yn y cyfamser, dyma gyflwyniad gan yr artistiaid...

Tafsila Khan
Tafsila Khan

Mae Tafsila yn ymgynghorydd hygyrchedd llawrydd sydd wedi’i chofrestru’n ddall. Mae hi’n gweithio yn y sector gelfyddydau i wella profiadau pobl ddall a’r rheiny sydd â nam ar eu golwg.

Ar hyn o bryd mae hi wrthi’n datblygu ei hymarfer creadigol fel cyfarwyddwr theatr.

Tumi Williams
Tumi Williams

Fel Skunkadelic – emcee blaenllaw yng Nghaerdydd – mae Tumi’n adnabyddus am ei lais bariton a’i ddawn gyda geiriau.

Mae angerdd pur, profiad a dyfeisgarwch ym mhob llinell o’i ganeuon a siapiwyd ei waith cerddorol gan oes euraidd hip hop a’i wreiddiau teuluol yn Nigeria.

Yn ogystal â’i waith fel perfformiwr unigol, mae e hefyd yn arwain yr anhygoel Afro Cluster, grŵp funk 9 aelod. Fel asiant gyda thîm hyrwyddo ‘Starving Artists’ Caerdydd ac asiantaeth ‘Fiesta Bombarda’ Lerpwl mae e wedi mireinio’i sgiliau rhwydweithio.

Mae Tumi hefyd yn datblygu ei waith fel addysgwr, ac yn cynnal cyfres o weithdai mewn ysgolion ac yn ei gymuned leol. Mae e wedi ymrwymo nid yn unig i’w waith artistig personol ond i hyfforddiant ac i’r diwydiant ehangach.

Jo Fong
Jo Fong

Mae Jo yn byw yng Nghaerdydd ac mae ei gwaith creadigol yn adlewyrchu’r angen i bawb ddod ynghyd yn ystod y cyfnod hwn. Syniadau am berthyn a chreu cymuned sydd wrth wraidd ei hymarfer creadigol.

Mae ei hymarfer yn gydweithredol ac yn datblygu’n barhaus. Mae hi’n creu ei gwaith drwy ymgysylltu wyneb yn wyneb; mae’n ymwneud â chyswllt, cyfathrebu ac archwilio sut rydyn ni’n cydfyw.

Ar hyn o bryd mae Jo yn gweithio o bell ar archif o leisiau o’r enw 'What will people need?' gyda Chanolfan Gelfyddydau Battersea. Sgwrsio, gwrando, dysgu a dad-ddysgu sydd wrth galon y prosiect, ac yn ystod y cyfnod hwn mae nifer o artistiaid yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt wedi cefnogi Jo yn ei gwaith.

Mae Jo wedi cyflwyno perfformiadau mewn gwyliau megis Experimentica, Dublin Theatre Festival, Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Ddawns Caerdydd, Chinese Arts Now, Rhaglen Arddangos y British Council yng Nghaeredin a’r British Dance Edition.

Nerida Bradley
Nerida Bradley

Mae Nerida yn gyfarwyddwr, gwneuthurwr a hwylusydd theatr llawrydd. Mae hi’n ymddiddori mewn celfyddydau ac iechyd, celfyddydau sydd wedi’u trefnu’n gymunedol, ac mewn ail-ddychmygu pwy sy’n cael bod yn “artist”.

Mae hi’n gweithio gyda phobl ifanc a lleisiau nad ydynt yn cael gwrandawiad

Ruslan Pilyarov
Ruslan Pilyarov

Mae Ruslan yn angerddol am greu storïau. Fel gwneuthurwr ffilmiau uchelgeisiol, sy’n dod o gefndir creu ffilmiau dogfen, mae e wedi ymrwymo i rannu storïau anhysbys drwy nifer o wahanol gyfryngau, gan gynnwys ffilm, celfyddyd ddigidol a thechnoleg rithiol 360˚.

Ndidi John

Mae Ndidi yn awdur, sgriptiwr, actor, cerddor, artist gair llafar ac ymarferydd lles; cyfuniad o sgiliau sy’n ei galluogi i ymwneud â actifiaeth creadigol mewn ffordd holistig.

Mae ei dawn fel storïwr a’i sgiliau cyfathrebu yn disgleirio drwy ei storïau therapiwtig sy’n dangos ei dealltwriaeth o fywyd metaffisegol.

Ei hymrwymiad i greu dyfodol gwell sydd wrth wraidd Academy Plus, Mae’r sefydliad yn darparu cyrsiau creadigol i bobl ifanc, egin ymarferwyr creadigol a gweithwyr proffesiynol sydd am ddysgu sgiliau newydd wrth ddatblygu eu lles personol a phroffesiynol.

Mae Ndidi yn ceisio meithrin lles unigolion, gan helpu creu cytgord a chydbwysedd yn y gymuned ac felly’n gwella cymdeithas. Mae hi’n gweithio’n lleol i ddatblygu a chyflawni potensial dynol byd-eang.

Jaffrin Khan
Jaffrin Khan

Mae Jaffrin yn ysgrifennwr ac artist gweledol o gefndir Cymreig Bangladeshaidd, sy’n byw yng Nghaerdydd.

Ar ôl derbyn gradd Saesneg gydag anrhydedd mae Jaffrin wedi cychwyn ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth fel ffurf o actifiaeth.

Mae ei cherddi’n gweithio drwy drawma personol ac yn trafod pynciau a ystyrir yn dabŵ yng nghymunedau De Asiaidd, megis perthnasoedd, delwedd corff, ffeministiaeth, anghyfiawnder cymdeithasol a chrefydd.

Ei gobaith yw creu gwaith sy’n rhoi mynegiant i’w theimladau y gall pobl eraill uniaethu gyda hefyd.

Sita Thomas

Sita Thomas yw Cyd-gyfarwyddwr Artistig (cyfnod mamolaeth) Common Wealth Theatre. Mae hi’n artist aml gyfrwng sy’n gweithio ym myd teledu, ffilm a theatr, ac yn ymddiddori mewn cynyddu cynrychiolaeth cymunedau ar y cyrion.

Mae ei gwaith cyfarwyddo’n cynnwys 'Go Tell The Bees' ar gyfer National Theatre Wales, 'Press Play Here', ar gyfer Theatre Royal Stratford East, 'Under The Mask', ar gyfer Tamasha a’r Oxford Playhouse, 'We Are Shadows: Brick Lane' ar gyfer Tamasha, a 'The Rose and the Bulbul' gan Kamal Kaan, cynhyrchiad promenâd safle penodol yn yr awyr agored a gynhyrchwyd gan Kadam.

Mae Sita’n arwain Rhaglen Cyfarwyddwyr Tamasha. Mae gan Sita PhD o Brifysgol Warwick a Gradd Meistr mewn Cyfarwyddo Symudiad o’r Royal Central School of Speech and Drama.

Mae hi’n Lysgennad Ymddiriedolwr y Young Vic a’n Ymddiriedolwr Emergency Exit Arts, ac yn aelod o grŵp cynghori Wythnos Ffoaduriaid. Mae Sita hefyd yn cyflwyno ar raglen milkshake! Channel 5.