Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyflwyno Nerida Bradley

Roedd yn bleser gennym gyflwyno ein carfan gyntaf o Gymdeithion Creadigol, fis diwethaf. Mae'r grŵp deinamig yma o wyth o artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn ymuno â'n tîm ar adeg hollbwysig yn ein hanes.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn dod i adnabod y cymdeithion yn well, drwy sesiwn holi ac ateb gyda phob un. Yr wythnos hon, dewch i gyfarfod Nerida...

Dwêd wrthon ni am dy ymarfer greadigol. Pa fath o waith wyt ti'n ei greu a beth sy'n dy ysgogi di?

Dw i'n ystyried fy hun yn egin ymarferwr creadigol, ac yn dal i ddarganfod hyn i mi fy hun! Ar hyn o bryd baswn yn diffinio fy hun fel cyfarwyddwr, gwneuthurwr a hwylusudd.

Mae fy ngwaith creadigol yn bodoli ar y ffin rhwng y celfyddydau a gweithio gyda phobl. Credaf fod y ddau beth yma'n anwahanadwy. Dw i'n credu mai i'r bobl mae'r celfyddydau, ac eto, yn rhy aml mae pobl yn cael eu gadael allan. Mae gen i ddiddordeb yn sut gall y celfyddydau ateb diben yn ein cymdeithas, a chynnig gofod i fynegi ac i hybu lles a sgwrs.

Cychwynnais fel egin gyfarwyddwr. Gynt roeddwn i'n Gyfarwyddwr dan Hyfforddiant gyda The Other Room, lle cynhyrchais eu Cynllun Egin Ysgrifenwyr ac rwy'n rhedeg Cwmni Theatr Run Amok ar y cyd ag Izzy Rabey. Dw i hefyd yn cynhyrchu Trans Pride Cardiff.

Ar hyn o bryd dw i'n gweithio fel hwylusudd ar ran Grŵp Ieuenctid LHDTQ+ Casnewydd a Chyngor Ieuenctid Casnewydd. Bues i hefyd yn gweithio gyda grŵp Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu'r Sherman a fues i'n cyd-arwain un o grwpiau Theatr Ieuenctid Sherman. Dw i hefyd yn gweithio fel Cydlynydd Datblygu Ieuenctid ar Reading the Rainbow – prosiect llythrennedd ffilm LHDTQ+ gyda Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a Pili Pala Film.

Yr hyn sy'n fy ysgogi yw ail ystyried pwy sy'n cael bod yn “artist” a meddwl am sut y gallwn ni adeiladu cymdeithas sy'n rhoi mynediad i bawb at bleser, llawenydd a theimlad o berthyn.

Pam oeddet ti am ymuno â ni fel Cydymaith Creadigol?

Bues i'n gwrando ar Graeme yn siarad fel gwestai ar bodlediad Critically Speaking a theimlais fod Canolfan Mileniwm Cymru mewn cyfnod o drawsnewid; yn symud o'r ffordd roedden nhw wedi bod yn gweithio i'r ffordd roedden nhw am weithio.

Roedd diddordeb mawr gen i yn y syniad o Ganolfan Mileniwm Cymru fel cartref, yn gweithio i sicrhau bod mwy o bobl yn teimlo fel petaent yn perthyn yno. Dydw i ddim am ddychwelyd i'r celfyddydau fel yr oeddent cyn COVID19 – mae'r syniad yn ddiflas iawn i mi. Dw i am weithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru i gyd-ddylunio ffyrdd newydd o weithio ac o ddefnyddio'r gofod sydd ganddynt ar hyn o bryd.

Beth wyt ti'n gobeithio'i gael o'r ddwy flynedd nesaf yn gweithio gyda ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru?

Dw i'n edrych ymlaen at ddysgu gan a chydweithio gyda'r Cymdeithion Creadigol eraill. Dw i'n gobeithio y caf i'r amser a'r gofod i feithrin cysylltiadau ystyrlon a chynaliadwy gydag unigolion a chymunedau. Gobeithio y bydda i'n gadael gyda hyd yn oed fwy o gwestiynau nag oedd gen i wrth gyrraedd.

Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd, ond beth yw'r pethau positif sydd wedi dod o'r cyfnod yma i ti, a beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?

Dw i'n meddwl mai'r peth mwyaf positif sydd wedi dod o'r 18 mis diwethaf i mi yw'r amser a'r gofod i arafu a myfyrio.

Ar gychwyn y cyfnod, teimlais fy mod yn colli fy hunaniaeth, gan fod y pandemig wedi tarfu ar fy llwybr yn gyfan gwbl. Teimlais fy mod wedi bod yn gweithio'n galed ofnadwy ac yn aberthu gymaint o lawenydd. Yn y bôn, roeddwn yn dioddef o gyfalafiaeth fewnol.

Fodd bynnag, roedd yn gyfle i mi ail ystyried sut y gallwn i fyw fy mywyd yn unol â'm gwerthoedd. Sut allwn i newid o feddylfryd o oroesi i fod yn blaenoriaethu llawenydd a thyfiant? Sut allwn i ddysgu cofleidio methiant? Dw i ddim yn meddwl y dylai fy ngwerth fel person ymwneud yn gyfan gwbl a pha mor gynhyrchiol ydw i, felly pam mai dyma'r neges roeddwn i'n ei derbyn? Mae fy ngwaith yn rhan fechan o bwy ydw i, ond nid gwaith yw popeth.

Hefyd, fe roddodd y cyfnod gyfle i mi feddwl am ffyrdd niweidiol neu ddiddefnydd o weithio o fewn y diwydiannau celfyddydol, a chychwyn meddwl am ffyrdd eraill gwell, fwy caredig o weithio. Yn sicr, nid oes gen i'r atebion i gyd, ond dw i'n edrych ymlaen yn fawr at archwilio.

Un peth arall cadarnhaol oedd bod gofyn i mi addasu i oroesi, ac o ganlyniad dw i wedi cael mwy o gyfleoedd i wneud y math o waith sy'n bwysig i mi - er enghrraifft, gweithio gyda phobl ifanc.

Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol yw parhau i ddysgu!

Ym mhle gallwn ni weld dy waith? 

Nid oes gen i lawer o broffil ar-lein; gallwch fy nilyn i ar Twitter ar @nerida_bradley ond fe gewch chi'ch siomi!

Cynhelir Reading the Rainbow yn ystod mis Mehefin, ac mae e ar agor i bob person ifanc (12-17 mlwydd oed) felly dilynwch @RiverfrontArts er mwyn darganfod mwy.

Hoffwn hefyd argymell eich bod chi'n dilyn yr holl waith arbennig sy'n cael ei wneud gan Gyngor Ieuenctid Casnewydd, drwy ddilyn @YouthNewport.