Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
a group of young people stood on a stage looking up

Cyflwyno’r Criw Ieuenctid

Beth fyddai’n digwydd pe bai gyda ni grŵp o bobl ifanc i’n cynghori ni ar sut orau i ddarparu ein prosiectau ar gyfer pobl ifanc?

Wel, rydyn ni ar fin cael gwybod... wrth i ni lansio’n swyddogol ein cyngor ieuenctid newydd o’r enw’r Criw Ieuenctid.

Bydd y naw person ifanc yma’n helpu i lywio sawl agwedd ar ein sefydliad, ac yn sicrhau ein bod ni’n ofod cynhwysol i BOB person ifanc.

Fahadi Mukulu

Bydd Fahadi Mukulu, y cyd-hwylusydd, a gweddill y grŵp yn cwrdd yn rheolaidd i rannu pryderon am gyfleusterau, cyfranogiad, cydnawsedd, cynhwysiant, hygyrchedd, ac amrywiaeth, a byddan nhw’n gweithio’n agos gyda’n staff a hwyluswyr y cyngor ieuenctid i gyflawni hyn.

"Rydyn ni am greu sefydliad sy’n ymatebol i anghenion a dymuniadau pobl ifanc y gymuned leol ac yn ehangach, drwy herio’r status quo a hyrwyddo newid ystyrlon."

Fahadi Mukulu, Cyd-Hwylusydd

Cymerwch olwg ar ffilm newydd sbon y criw, a gafodd ei hysgrifennu, ei pherfformio a’i chyfarwyddo ganddyn nhw.

Gallwch gwrdd â’r Criw Ieuenctid a dysgu rhagor am beth fyddan nhw’n ei wneud yma.