Rydym ni nôl ar 4 - 7 Tachwedd 2021 am bedwar diwrnod o gerddoriaeth byw anhygoel, perfformiadau i ysgogi meddwl, a sgyrsiau ysbrydoledig.
Ar ôl angen canslo Gŵyl y Llais yn 2020, dychwelom yn gynharach eleni gyda Gŵyl 2021 – digwyddiad digidol a ddarlledwyd arlein drwy’r BBC, a grewyd ynghyd â thair gŵyl gelfyddydol Gymreig blaenllaw.
Yr Hydref hwn, mi fydd Gŵyl y Llais yn fyw unwaith eto o Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer penwythnos bythgofiadwy yng Nghaerdydd.
Fel yng ngwyliau’r gorffennol, byddwn yn croesawu rhai o leisiau mwyaf pwerus y byd, digwyddiadau untro, ac artistiaid newydd i chi eu darganfod. Ac mae’r cyfan yn llenwi pedwar diwrnod ac un lleoliad i greu’r awyrgylch gŵyl mae pob un ohonom ei angen.
Tocynnau a rhestr artistiaid i ddod yn fuan.
Dilynwch ni ar Instagram, Twitter neu Facebook, neu tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i glywed y newyddion cyn unrhywun arall.
#GYLL2021