Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyllyll miniog a thân poeth

Nid yw perfformwyr syrcas byth yn rhithio. Mae’r beryg yn real, mae’r cyllyll yn finiog, ac mae’r tân wastad yn boeth.

Ond ar Fawrth 23, am un noson yn unig, bydd Mary Bijou yn rhithio ambell beth, yn unswydd ar eich cyfer chi.

All George ei drawsffurfio ei hunan yn King Kong? All Alise droi hwla hŵps yn gelfyddyd symudol? All Dino werthu llyfr ichi am famolaeth? All Vreni fod y ‘ffem’ berffaith?

Mae’r sioe hon yn real iawn. Mae’r cleddau’n torri’r croen, ac mae’r cnawd yn feddal, ond mae rhaid rhithio ambell beth eto i gyd...  Allwch chi ganfod pa rai?

CWRDD A’R PERFFORMWYR

Trowynt o dalent yw Mary Bijou, ffrwyth dychymyg yr Americanwr George Orange, a’r Awstriad Anna Sandrueter.

Roedd y cyn-berfformwyr NoFit State hyn yn chwilio am ddifyrrwch amgen a oedd yn adlewyrchu eu bywydau eclectig, ac felly y ganed Mary Bijou yn 2010.

Perfformiwr syrcas yw George Orange  sy’n hanu o Chicago. Mae’n cymysgu comedi ffisegol gyda syrcas farddonol o sgilgar, ac mae wedi perfformio am ddegawdau ar dri chyfandir a thros 30 o wledydd.

Derbyniodd Alise Piebalga, a aned yn Latfia, ei PhD yn y celfyddydau cain yng Nghaerdydd, cyn rhedeg i ffwrdd i’r syrcas i greu gwledd weledol drawiadol.

Difyrrwr Swisaidd hynod ddoniol yw Vreni May sy’n cyfuno twpdra, theatr, a sgiliau awyrol i greu styntiau i’ch syfrdanu.

Ac mae’r artist perfformio Dino Rovaretti yn dod â’i gymysgfa unigryw o gelf berfformiadol, y gair llafar a theatr gyda digonedd o ddoniolwch a phersbectif o’r ‘byd go iawn’.

Mae’r bar a’r gegin ar agor o 6pm ymlaen ac mae’r sioe yn dechrau am 8pm.