Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyrsiau Llais Creadigol

Ym mis Medi byddwn ni’n cynnig cyrsiau ar-lein am ddim i unrhyw un 16-25 oed. Felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn adrodd stori, creu ffilmiau, cynhyrchu radio, argraffu neu greu ‘zines’, dyma’r cyfle perffaith i chi…

Mae tri chwrs unigryw ar gael, a gallwch chi gofrestru am un ohonynt. Nodwch fod lle i uchafswm o 10 person ar bob cwrs. 

Mae pedwar sesiwn i’r cwrs, fydd yn cymryd rhan ar 9 Medi, 16 Medi, 23 Medi a 30 Medi. Mae disgwyl i chi fynychu pob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged i fwcio lle ar y cwrs gyfan, os gwelwch yn dda.

YNGLŶN Â’R CYRSIAU

RADIO: ADRODD STORI DRWY SAIN

Dysgwch ddulliau radio, cynyddwch eich hyder creadigol a rhannwch eich storiâu chi yn eich ffordd eich hun. Mae lle i uchafswm o 10 person ar y cwrs a bydd angen i chi gofrestru i ymuno, ond mae am ddim.

SGRIN: ADRODD STORI DRWY GREU FFILMIAU

Dysgwch ddulliau ffilmio, cynyddwch eich hyder creadigol a rhannwch eich storiâu chi yn eich ffordd eich hun. Mae lle i uchafswm o 10 person ar y cwrs a bydd angen i chi gofrestru i ymuno, ond mae am ddim.

HUNAN-GYHOEDDI: ADRODD STORI DRWY ARGRAFFU A CHREU ‘ZINE’

Dysgwch ddulliau argraffu a chreu zine, cynyddwch eich hyder creadigol a rhannwch eich storiâu chi yn eich ffordd eich hun. Mae lle i uchafswm o 10 person ar y cwrs a bydd angen i chi gofrestru i ymuno, ond mae am ddim.

Nod y cyrsiau yma yw datblygu eich sgiliau creadigol mewn awyrgylch hamddenol, cydweithredol a chreadigol.

Bydd artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr ffilmiau yn arwain y cyrsiau a bydd mentor yn eich cefnogi drwy gydol y cwrs.

Old Olympus film camera resting on a magazine

Bydd digon o gydweithio ac adborth ar hyd y ffordd, a’r cyfle i chi ddatblygu’ch syniadau mewn awyrgylch hamddenol, heb bwysau.

Byddwch yn dysgu dulliau ‘DIY’ o greu ffilmiau, radio neu argraffu/cyhoeddi ac yn cynyddu eich hyder creadigol. Cewch gyfle i rannu eich storiâu eich hun wrth archwilio'r pethau hynny rydych chi’n eu mwynhau.

Zine magazine cover

PRYD?

Bydd y cyrsiau’n digwydd 9 - 30 Medi, bob dydd Mercher 4.30pm - 6.30pm drwy gyfrwng Zoom. Bydd sesiynau ‘galw-mewn’ opsiynol ar ddydd Iau hefyd. Mae pob un cwrs am ddim.

SUT I GYMRYD RHAN

Young black man filming with a video camera

I archebu lle, cliciwch ar y botymau cofrestru (uchod). Bydd angen i chi ddewis rhwng Radio, Sgrin a Hunan-Gyhoeddi.

Mae pedwar sesiwn i’r cwrs, fydd yn cymryd rhan ar 9 Medi, 16 Medi, 23 Medi a 30 Medi. Mae disgwyl i chi fynychu pob un. Ychwanegwch un tocyn i’ch basged i fwcio lle ar y cwrs gyfan, os gwelwch yn dda.

Unwaith rydych chi wedi cofrestru byddwn yn anfon mwy o wybodaeth ynglŷn â phob cwrs, yn ogystal â dolen i chi ymuno yn y sgyrsiau Zoom ar-lein.

DEWCH I 'NABOD Y MENTORIAID

Arielle Tye

Mae Arielle yn Rheolwr Busnes a Phartneriaethau ar gyfer menter gymdeithasol ProMo-Cymru. Mae’r fenter yn adeiladu cysylltiadau cryf gyda’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, er mwyn creu newid parhaol a chadarnhaol.  Bu Arielle yn cyd-weithio â ni yn flaenorol, i ddatblygu Radio Platfform, ein gorsaf radio dan arweiniad pobl ifanc.

Dayana Del Puerto

Mae Dayana yn Gynhyrchydd Aml-gyfrwng a Chyfarwyddwr ar gyfer ProMo-Cymru a ganddi flynyddoedd o brofiad o weithio ym maes teledu a’r cyfryngau. Mae gan Dayana ddealltwriaeth eang o’r diwydiant, a sgiliau sy’n cynnwys cyfarwyddo ffrydio byw, rheoli prosiectau o syniadau cychwynnol i gynhyrchiad terfynol a gweithredu offer ffilmio arbenigol, sain a goleuo stiwdio.

Hefin Jones

Hefin is a designer living in Wales, working across wider national and international localities whose interests are centered around youth action through the arts. His recent projects and collaborations include design projects with young people at the Victoria and Albert Museum, Wellcome Centre for Neuroimaging, National Theatre Wales, and Crafts Council.

Mae Hefin yn ddylunydd sy’n byw yng Nghymru. Mae’n gweithio mewn lleoliadau cenedlaethol a rhyngwladol, gyda ffocws ar waith ieuenctid drwy’r celfyddydau. Mae ei brosiectau a chyweithiau diweddar yn cynnwys prosiectau dylunio gyda phobl yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Wellcome Centre for Neuroimaging, National Theatre Wales a’r Cyngor Crefftau.

Mike Regan

Arainwyd y gweithgaredd yma trwy grant Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru.