Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Tooling Up

Datblygu Sgiliau yn y Cymoedd

Dros dri mis yn ystod 2019, bu cyfranogwyr ifanc 16+ yn cymryd rhan yn Datblygu Sgiliau yn y Cymoedd, fel rhan o bartneriaeth Yn Gryfach Ynghyd.

Bu 8 o bobl ifanc yn cwrdd bob ddydd Sadwrn i ddylunio a chreu gwisgoedd, set a phropiau ar gyfer cynhyrchiad  Gweithdy Drama Sparc Penyrenglyn o The Only Village.

Fe wnaeth y prosiect trawsffurfio prosiect Valleys Kids Penyrenglyn i fod y pentref olaf un mewn byd ôl-argyfwng hinsawdd.

Roedd angen i’r profiad ymdrochol yma gael nifer o ofodau mewnol ac allanol y gellid eu newid a’u haddurno i fynd â’r gynulleidfa ar y daith unigryw yma

Dewch i weld canlyniad eu gwaith caled a dysgu mwy am eu taith drwy’r broses drwy ymweld â'n harddangosfa tua allan i'n Stiwdio Weston rhwng 15 Hydref - 11 Tachwedd 2019.

Mae Yn Gryfach Ynghyd yn bartneriaeth rhyngom ni a Valleys Kids,sydd wedi’i gynllunio i ddarparu cyfleoedd creadigol i bobl ifanc yn y Cymoedd, gyda chefnogaeth gan y Paul Hamlyn Foundation. Wedi’i ddarparu gan Sparc a’n tîm Dysgu Creadigol.