Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Datganiad Amrywiaeth Canolfan Mileniwm Cymru

Yn wythnos diwethaf, fe ddywedon ni bod rhaid defnyddio'r pecyn cymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn adeiladu sector celfyddydau radical, newydd a mwy cynhwysol, a bod Canolfan Mileniwm Cymru yn ystyried ei rhan hi o’r cyfrifoldeb hwnnw o ddifri.

Mae’r ffaith bod dim on 2% o’n staff llawn amser, 4% o’n staff achlysurol ac 20% o’n Bwrdd yn bobl Dduon, Asiaidd neu’n ethnig amrywiol yn fethiant arwyddocaol, felly rydym yn cydnabod taw cam cyntaf ein tasg yw amrywiad brys ein gweithlu.

Rydyn ni wedi dioddef colledion enfawr yn ystod y pandemig Coronafeirws, ond beth bynnag fydd tirlun ein cyllid o hyn ymlaen, mi fyddwn yn cyflymu’r mentrau sydd gennym eisioes i sicrhau bod y Ganolfan yn adlewyrchu’n well y gymuned yr ydym yn ei gweini, sy’n cynnwys ein partneriaeth gyda JobCentre Plus am fentora ac adeiladu sgiliau i’r gwaith, ein model cyllidebu cyfranogol a rhaglenni mwy o waith amrywiol ar ein llwyfannau.

Rydyn ni hefyd yn gwybod mai megis dechrau yw hynny. Ym mis Medi, byddwn ni'n cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar gyfer y Ganolfan gyfan yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein sefydliad a'i waith mor gynhwysol â phosib, yn cynnwys hyfforddiant gwrth-hiliol a rhagfarn anymwybodol ar draws y sefydliad a’i Fwrdd, wedi’u rhoi gan rywun neu bobl gyda phrofiad byw.

Yn y cyfamser mae Jason Camilleri, ein Cynhyrchydd Dysgu Creadigol, wedi llunio blog am ei brofiadau e fel dyn du yn gweithio yn y sector creadigol yng Nghymru, a'i fyfyrdodau personol ynghylch beth ddylai ddigwydd nesaf – yma yn y Ganolfan a'r tu hwnt.

Darllenwch y blog a chadwch lygad am gyhoeddiadau pellach.