Ydych chi'n barod am storm?
Wrth i'r Hydref gydio a'r tywydd droi, mae storm operatig yn codi yn y gwynt tu fas i'r Ganolfan.
Rydyn ni ar fin datgelu tymor anhygoel newydd o opera WNO.
Mae mis medi yn y Theatr Donald Gordon yn addo drama, wrth i stori anhygoel Tolstoy, War and Peace, hawlio'r llwyfan, gyda digon o ddawnsfeydd godidog a melodïau pwerus.
War and Peace
15 Medi – 24 Tachwedd
Mae cynhyrchiad newydd David Poutney yn addo bod mor uchelgeisiol ac epig â'r nofel, gyda chast mawreddog, set arallfydol, tafluniadau fideo anhygoel a gwisgoedd rhyfeddol gan Marie-Jeanne Lecca sy'n adlewyrchu godidowgrwydd cymdeithas Rwsieg y 19fed ganrif.
Iaith: cenir yn Saesneg gydag uwch-deitlau Saesneg a Chymraeg.
Mae'r tymor hefyd yn adfywio La traviata a La Cenerentola, addasiad hyfryd Rossini o stori Sindarela Charles Perrault, sy'n addo'ch cludo i fyd lliwgar y tylwyth teg gyda wigiau anghredadwy (diolch i'r ddwy chwaer hyll) a sgôr gerddorol disglair gan Tomáš Hanus.
Bydd Angelina'n mynd i'r ddawns fawreddog? Archebwch nawr i gael gwybod.
Iaith: cenir yn Eidaleg gydag uwch-deitlau Saesneg a Chymraeg.
La traviata
21 Medi – 23 Tachwedd
Mae La Traviata yn un o'r operâu mwyaf poblogaidd yn y byd - clasur o stori am dor-calon a chyfrifoldeb gyda gwisgoedd godidog a sgôr gerddorol atgofus, gan gynnwys Brindisi (y gân yfed).
Os weloch chi'r rhaglen deledu BBC Canwr y Byd Caerdydd yna efallai y gwnewch chi adnabod rhai aelodau o'r cast gan fod Anush Hovhannisyan a Kang Wang wedi cystadlu yn 2017.
Iaith: Cenir yn Eidaleg gydag uwch-deitlau Saesneg a Chymraeg.