Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dathlu Dydd Santes Dwynwen

Rydym yn dathlu Dydd Santes Dwynwen yng Nghymru ar 25 Ionawr bob blwyddyn.

Pwy oedd Santes Dwynwen?

Tywysoges Gymreig o’r 4edd ganrif oedd Dwynwen. Sythiodd mewn cariad â bachgen lleol o’r enw Maelon, ond roedd ei thad eisoes wedi trefnu ei bod yn priodi tywysog.

Yn ei thristwch, dihangodd Dwynwen i’r goedwig a gofynodd wrth Dduw am help. Daeth angel i ymweld â hi a rhoi hylif hud melys iddi er mwyn iddi allu anghofio am Maelon, ac fe drodd Maelon yn golofn o iâ.

Rhoddodd Duw dri dymuniad iddi. Ei dymuniad cyntaf oedd i ddadmer Maelon; ei hail oedd i Dduw helpu cyplau oedd yn caru ei gilydd, a’i thrydydd oedd na fyddai hi byth yn priodi. Trodd Dwynwen yn lleian ac er cof amdani mae 25 Ionawr yn ddiwrnod i gariadon Cymru ddathlu drwy dderbyn a chyfnewid anrhegion a chardiau.

O Dwynwen i Carys…

Fel mae'n digwydd, mae duwies cariad gyfoes Cymru yn gyfaill agos i ni…

Carys Eleri o flaen cefndir gwyrdd a glas a darlu o'r ymennydd

Datblygodd Carys Eleri ei chomedi gerddorol un-fenyw, Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) gyda ni, ac fe’i addaswyd i’r Gymraeg y llynedd. Aeth Cer i Grafu…sori…GARU, addasiad Cymraeg o’i sioe am niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd, ar daith o amgylch Cymru yn ystod yr Hydref y llynedd.

Yn dilyn llwyddiant y sioe ramantaidd y flwyddyn ddiwethaf, rydym yn falch o gyhoeddi bod y fersiwn Saesneg – Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) yn mynd ar daith i Soho Theatre yn Llundain 27 – 29 Chwefror. A chyn hynny bydd Carys yn cyflwyno Carys Eleri’n Caru ar S4C – sioe ddogfen sy’n edrych ar arferion caru’r Cymry. Cofiwch wylio!

Rhannu’r Cariad

Chwilio am anrheg rhamantus? Mae digonedd o ddewis yma yn y Ganolfan ar eich cyfer:

Daw The Marriage of Figaro gan Opera Cenedlaethol Cymru i’n llwyfan ym mis Chwefror 2020. Opera ydyw am briodas dau berson a bydd yn siŵr o’ch cadw ar flaenau eich sedd tan y funud olaf, gyda sgôr ragorol Mozart yn dod â'r cyfan yn fyw yn yr olygfa olaf.

Bydd cynhyrchiad Matthew Bourne o The Red Shoes yn cael ei berfformio yma ar ddiwedd mis Mawrth. Dyma chwedl am obsesiwn, meddiant a breuddwyd un ferch i fod yn ddawnswraig orau’r byd. Mae wedi’i osod i gerddoriaeth hynod ramantus gan Bernard Hermann. Bydd y sioe hudolus yma ar ein llwyfan 31 Mawrth - 4 Ebrill.

Dawnswraig yn gwisgo ffrog werdd, yn dawnsio dan y goleuadau ac yn cydio mewn pâr o esgidiau coch


Bydd Once The Musical yn cyrraedd ein llwyfan ym mis Mai 2020. Dyma sioe sydd yn adrodd stori dau enaid coll – bysgiwr o Ddulyn a cherddor Tsiecaidd – sydd yn dod o hyd i’w gilydd yn annisgwyl ac yn syrthio mewn cariad.

Bysgiwr yn chwarae ei gitâr ac yn siarad gyda dynes ifanc.

Ac i gloi 2020 byddwn yn croesawu The Phantom of the Opera i’r Ganolfan ym mis Rhagfyr. Mae’r cynhyrchiad gwreiddiol anhygoel yma gan Andrew Lloyd Webber wedi ennill sawl gwobr ac yn cael ei ystyried fel un o’r cynyrchiadau mwyaf syfrdanol a fu erioed.

Mwynhewch y dathliadau!