Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Delweddau'r Carnifal

Efallai bod bwrlwm Carnifal Trebiwt wedi llonyddu am flwyddyn arall, ond dydyn ni heb orffen eto...

Mae trefnu'r carnifal bob blwyddyn yn cymryd ymdrech enfawr - o wneud gwisgoedd, cerddoriaeth a dawnsio i'r holl weithgareddau y tu ôl i'r llen sydd eu hangen er mwyn sicrhau digwyddiad hwyliog, diogel a rhydd i bawb.

Dyna ffilm fer gan y gwneuthurwr ffilmiau lleol, Tim Tyson Short gyda cherddoriaeth gan Jefferson Lobo sy'n cynnwys rhai o aelodau tîm y carnifal lleol. Mwynhewch!

Diolch yn fawr i Keith Murrell, Gemma Hicks, Jefferson Lobo, Laurence Ahmun, Caroline Richards, Alice a Niki Fogaty, June Campbell-Davies, Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Trebiwt, Hwb Pafiliwn Trebiwt, Canolfan Ffoaduriaid Oasis yn y Sblot, Pedal Power ym Mhontcanna a phawb arall ynghlwm â pharêd y carnifal eleni.