Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dylunio Gwarchodwr Gardd

Gall gerddi fod yn fannau hudol a rhyfeddol sy’n tanio’r dychymyg! Ond mae angen helpu ac amddiffyn y byd naturiol hefyd, p’un a yw hynny’n golygu creu gofod ar gyfer natur neu siarad allan er mwyn ei diogelu.

Beth pe bai gan bob un ohonom ni Warchodwr Gardd hudol i roi help llaw i ni?

Yn ystod gwyliau’r Pasg, gwnaethom ni gynnal cyfres o weithdai lle y gallai plant ddod a dylunio eu ‘Gwarchodwr Gardd’ eu hunain gyda’r siawns y byddai eu dyluniad yn cael ei droi’n warchodwr chwyddadwy enfawr a fydd yn gwarchod ein Gardd Glanfa yr haf hwn.

Cafodd y dyluniad buddugol ei greu gan Jimmy Ling sy’n 10 oed, a bydd ei warchodwr lliwiau’r enfys o’r enw Raintree yn dod yn fyw gyda help y cwmni dylunio gweithiau celf chwyddadwy arloesol, Designs in Air.

Yn ddiweddar, gwnaeth Jimmy gyfarfod â Luke Egan o Designs in Air i sicrhau bod Raintree yn barod, gan ychwanegu braich ychwanegol a mwy o liw at ei ddyluniad gwreiddiol.

“Mae fy Ngwarchodwr Gardd Raintree yn smotyn lliwiau’r enfys gyda dwy fraich ac mae diferion glaw arno. Gwnes i ei greu gan ddefnyddio fy nychymyg yn unig.”

 Jimmy Ling

Mae Designs in Air bellach yn gweithio’n galed i greu’r gwarchodwr chwyddadwy yn eu gweithdy yn barod ar gyfer agoriad ein Gardd.

Dewch i archwilio ein gardd a chyfarfod â Raintree yr haf hwn rhwng 26 Gorffennaf a 2 Medi.