Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Wales Millennium Centre

Diweddariad coronafeirws

Mae’n flin gennym fod Canolfan Mileniwm Cymru wedi cau hyd nes ceir rhybudd pellach, yn dilyn cyngor Llywodraeth y DU a roddwyd ddydd Llun 16 Mawrth.

Rydyn ni’n mawr obeithio y byddwch yn cytuno mai dyma’r penderfyniad gorau – er mwyn rhoi diogelwch ein staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a chynulleidfaoedd yn gyntaf. Mae’n gyfnod trist ac ansicr i bob un ohonom ni.

Bydd goblygiadau’r sefyllfa yma yn anodd eu rheoli, ac yn parhau am gyfnod sylweddol.

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau perfformio ar gyfer y genedl a byddwn ni’n gwneud popeth posibl i gefnogi ein staff a’n gwirfoddolwyr, artistiaid a gweithwyr llawrydd drwy’r sefyllfa anodd yma.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ar ffordd o gefnogi’r unigolion talentog a chydwybodol hynny sy’n cyfoethogi ein bywydau drwy’r celfyddydau.

Rydyn ni eisiau bod yn barod i ddod â’r perfformiadau gwefreiddiol a’r profiadau dysgu amhrisiadwy hynny sydd mor werthfawr i bobl yn ôl, a hynny cyn gynted â phosibl.

Fodd bynnag, rydyn ni’n elusen. Er ein bod ni’n gwerthfawrogi’r cyllid rydyn ni’n ei dderbyn gan y llywodraeth, mae mwy na 85% o’n refeniw yn dod o werthiant tocynnau.

Felly, bydd y cyfnod sydd o’n blaenau yn anodd. Rydyn ni’n defnyddio pob elw i ddarparu swyddi i artistiaid, cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu am weithio yn y celfyddydau perfformio, ac i gymunedau gael mynediad at y celfyddydau, cymryd rhan ynddynt, a’u dathlu.

Os hoffech chi gefnogi’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth yn fawr. Gallwch gyfrannu fan hyn.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n cysylltu â holl ddeiliaid tocynnau’r sioeau sydd wedi’u gohirio neu wedi’u canslo, er mwyn prosesu ad-daliadau fel sydd angen. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar wrth i ni weithio drwy’r broses yma.

O hyn ymlaen, ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol fydd y ffynonellau gorau ar gyfer cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Byddwn yn diweddaru’r rhain wrth i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg. 

Rydyn ni’n dymuno’n dda i bawb yn ein cymuned. Cymerwch ofal, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru yn y dyfodol agos.

Mat Milsom

Rheolwr Gyfarwyddwr, Canolfan Mileniwm Cymru