Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Taflu Golau ar y Drag

Les Dawson a Roy Barraclough fel Cissy ac Aida, y Two Ronnies fel dwy Wren ryfedd yr olwg a’r hen ferched clasurol Hinge & Bracket.

Dyna i ddweud faint oeddwn i’n wybod am ddynion wedi’u gwisgo fel merched i wneud i bobl chwerthin.

Gan fy mod wedi cael fy magu a’m gwarchod, i ddweud y gwir, mewn cartref dosbarth canol, ychydig iawn a wyddwn i am 'Some like it Hot' a Danny La Rue.

Fy Mhrofiad Cyntaf o Ddrag 

Pan oeddwn i'n 18 oed symudais i fyw i Gaerdydd, a flwyddyn yn ddiweddarach a hynny’n eithaf cyndyn mi ddes i ‘allan o’r closet’.

Allwch chi ddychmygu gymaint oedd fy mraw a fy ofn un noson pan gefais fy hun mewn clwb stryd gefn o’r enw The Tunnel a gweld Marcia Bassey-Jones, gweledigaeth ryfeddol uchel ei chloch, balch a hudolus – ac sy’n dal i fod felly hyd heddiw.

Marcia - Cloben o Ddynes

Roedd Marcia yn chwe throedfedd o daldra, wedi ei gorchuddio â secwins a phlu, ac yn bloeddio canu ‘Kiss me honey honey kiss me,’ i lond ystafell o ddynion fel fi, a oedd wedi cael eu dychryn a’u swyno ganddi.

Dyma’r tro cyntaf imi ddod wyneb yn wyneb go iawn â drag. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach roeddwn i'n gweithio y tu ôl i'r bar yn Y Tunnel ac mi ddes i adnabod Marcia fymryn yn well.

"Mewn teits duon, gwallt gosod melyn wedi ei fenthyca o David Morgan a ffrog o C&A, gwnaeth Bev ei hymddangosiad cyntaf ..."

Dr Bev

Yn ystod fy amser yno, byddwn yn gweld rhai fel The Tunnel Girls, Ceri Dupree, Regina Fong a Lily Savage yn perfformio'n rheolaidd, ac roedd drag bob amser yn hypnotig ac yn hynod o ddoniol, ac eto roedd yn dal i fod yn syniad eithaf estron i mi.

Dyma pam y cefais fy syfrdanu rai blynyddoedd wedyn, pan ofynnwyd i mi, tra oeddwn yn gweithio yn The Kings Cross, ‘roi cynnig arni’ fy hun.

Teits duon, gwallt gosod melyn

Mewn teits duon, gwallt gosod melyn wedi ei fenthyca o siop fawr David Morgan a ffrog o C&A, gwnaeth Bev ei hymddangosiad cyntaf ..."

Pwy fyddai wedi dychmygu, 25 mlynedd wedyn, y byddwn yn dal i wneud hynny, ac yn ymddangos yn rheolaidd yn Brighton, Llundain a Canal Street ym Manceinion; neu fy mod yn cael fy ystyried yn un o’r hen griw drag, sy’n erbyn y math gwahanol o freninesau drag mwy eclectig sy’n dod i’r amlwg yn sgil sioe deledu RuPaul.

Roeddwn yn lwcus o gael arweiniad y chwedlonol Dave Lynn  a wnaeth fy helpu i wella fy ‘sioe a’m hedrychiad'.

Matriarchiaid y gymuned LGBT

Bu gweithio ochr yn ochr â Miss Kitty, Pixie, Amber, Fanny Dazzle a Lady Ding y mae cymaint o golled ar ei hôl yn Atlantica,

Wow a Exit yn ystod y blynyddoedd canlynol yn gymorth imi fagu hyder, fel fy mod erbyn heddiw yn y sefyllfa yr oedd Marcia ynddi pan welais i hi chwarter canrif yn ôl, ac rwy’n ceisio helpu perfformwyr drag eraill sy’n cychwyn yng Nghaerdydd.

Mae gwylio rhai fel Mary Golds, Jolene Dover a Minnie Cooper, dros y blynyddoedd wrth iddynt dyfu a datblygu eu harddulliau arbennig eu hunain, yn deimlad braf a chalonogol, wrth i'r genhedlaeth nesaf dal ati i berfformio drag.

Dr Bev a’i ffrindiau

Yn ddiweddar, bûm yn gweithio ac yn perfformio gyda llawer o'r merched hyn mewn digwyddiad i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer elusen sy'n cefnogi iechyd meddwl.

Sylweddolais bryd hynny pam yr ydym yn cael ein galw yn ‘Freninesau Drag’, gan mai breninesau ydym ac yn aml rydym yn cael ein hystyried yn fatriarchiaid y gymuned LGBT; wrth inni arwain y ffordd mewn digwyddiadau Pride, gweiddi am hawliau cyfartal mewn ralïau, treulio amser yn diddanu, ac o bryd i’w gilydd meithrin y rhai sy'n cefnogi ein sioeau.

Dr Bev Ballcrusher