Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Drag queen Polly Amourous pretending to eat a copy of Charles Dickens' A Christmas Carol

Drwg a da! Cwrdd â chwmni XXXmas Carol

Rydyn ni wedi ymuno â Big Loop Theatre Company i ddod ag ‘anti-panto’ fwyaf di-drefn Caerdydd erioed i chi!

Dewch i gwrdd â’r chwe artist drygionus sydd wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i greu a pherfformio XXXmas Carol, sy’n llenwi ein Stiwdio Wolfson y mis Rhagfyr hwn. Gyda drag, syrcas, bwrlésg a chân, bydd eu fersiwn bisâr o hunllef Nadoligaidd Charles Dickens yn rhoi chwant stwffin i chi.

Polly Amorous

Rhowch eich bechgyn dan glo! Dyma yw carmones Caerdydd sydd o hyd yn barod am amser da. Heblaw am ennill lle blaenllaw ym mywyd nos y ddinas fel perfformiwr drag, mae Polly’n mwynhau mynd i’r theatr, lasys mefus ffisiog Tesco a wâcs byr ar y traeth.

"It's been nice to branch out and work with types of performance acts that I don’t work with that often and it’s been great to devise – I haven’t done that since school."

Foo Foo LaBelle

Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae Foo Foo LaBelle (aka Stephanie Gawne) wedi bod yn gath mewn pantomeim, masgot deinosor, marchoges eliffantiaid, bolddawnswraig, perfformiwr bwrlésg, cantores a mam!

Yn 50 mlwydd oed, mae hi dal yn coreograffu dawnsiau yn ei hystafell wely a rhannu ei chynnwrf gyda chynulleidfaoedd Caerdydd.

"What have I loved about working on XXXmas Carol so far? The amazing creative team around me."

Rahim El Habachi

Mae Rahim yn ddramodydd, actor a bolddawnsiwr o Foroco. Drwy ei gelf, mae e’n dod ag amlygrwydd i’r materion sy’n wynebu’r gymuned o geiswyr lloches a ffoaduriaid LHDTh yn y DU, ac o gymryd ei le yn falch fel person croenliw.

"I love how diverse the cast is and how different the art forms are, I'm learning so much from each cast member. I'm enjoying that we are building the show as we go and making changes as we go."

Eric McGill

Yn raddedig o’r Ysgol Syrcas Genedlaethol ym Montreal, dechreuodd Eric ei yrfa acrobateg yn saith mlwydd oed fel trampolinwr cystadleuol. Mae e wedi gweithio mewn cabaret, sioeau mewn pebyll mawr, a gwyliau tu allan ar draws y byd gyda’i actau trapîs siglog a strapiau awyr syfrdanol.

"It’s a really great and supportive atmosphere. Probably the most time I’ve ever spent with other queer people."

Bunmi Odumosu

Mae perfformiadau Bunmi’n cynnwys adloniant llawn egni a bach o sass ar yr ochr. Fel artist a dawnswraig syrcas, mae hi’n dod a symudiad anhygoel a sgil gwefreiddiol. Ar ben hynny, mae hi’n beiriannydd cemegol.

"I love the diversity of the performers. We come from such a varied background in performance arts, cultures and Christmas experiences. It has been such a joy to have the creative liberty to create the show from scratch with the team."

Geraint Owen

Mae Geraint yn gyfarwyddwr, cyfansoddwr, ysgrifennwr a phianydd o Gaerdydd, sy’n gweithio ar draws theatr a theledu. Mae e’n wych am bopeth! Ddim yn credu ni? Mae ei waith theatr yn cynnwys y sioe gerdd wreiddiol, arobryn Rust yn yr Edinburgh Fringe.

"I love how joyful the show is. The six of us in the cast come from very different backgrounds culturally and artistically and the result of putting them all together is magic."

Safyan

TANIWCH EIN DYFODDOL

Tecstiwch AWEN i 70085 er mwyn rhoddi £5