Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dydd Miwsig Cymru

A hithau'n Ddydd Miwsig Cymru ar ddydd Gwener 7 Chwefror, dyma Heledd Watkins yn trafod ei hoff artistiaid Cymraeg.

Pwy ydw i?

Heledd ydw i, rwy’n gerddor sy’n perfformio mewn band o’r enw HMS Morris. Mae’n anodd disgrifio’n union y math o gerddoriaeth ry’n ni’n ei greu ond yn fras – pop/roc seicadelic dwyieithog yw ein sain.

Ry’n ni wedi ein dylanwadau gan fandiau Cymraeg y 90au – Super Furry Animals a Melys a bandiau mwy cyfoes fel Chairlift, St Vincent ac Ariel Pink.

Menyw cefn yn gefn â dyn sy'n gwisgo het wyrdd, gyda cherflun mawr yn y cefndir
HMS Morris

Pan dwi ddim yn perfformio gyda’r band rwy’n gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Rwy’n rhan o’r adran dysgu greadigol – fi sy’n trefnu ein gweithgareddau teuluol

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at Ddydd Miwsig Cymru. Mae’n gyfle i fi ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg newydd a mynd i weld fy hoff fandiau’n perfformio’n fyw.

Dyma i chi ychydig o uchafbwyntiau’r diwrnod gan gynnwys fy hoff fandiau a gigs sy’n digwydd ar draws Cymru...

Pump o fy ffefrynnau

Dyma rai o fy hoff artistiaid Cymraeg sy’n rhyddhau cerddoriaeth newydd ar hyn o bryd...

1. Georgia Ruth
Mae Georgia Ruth yn enw cyfarwydd iawn ar y sin yng Nghymru. Mae ei cherddoriaeth yn werinol, yn brydferth iawn ac yn cynnwys hint fach fach o ganu gwlad. Ar 20 Mawrth fydd hi’n rhyddhau ei halbwm newydd Mai.

2. Rhodri Brooks
Mae Rhodri Brooks yn gerddor sydd wedi teithio’r byd yn perfformio efo’r band Novo Amor. Mae e hefyd wedi rhyddhau cerddoriaeth fel deuawd efo Eugene Capper; cafodd eu halbwm nhw Pontvane ei enwebu am Wobr Gerddoriaeth Gymreig nôl yn 2018. Fe fydd Rhodri yn rhyddhau sengl unigol ar Ddydd Miwsig Cymru o’r enw Tynnu Gwaed.

3. Melin Melyn
Un o fy hoff fandiau Cymraeg newydd. Cymysgwch Talking Heads ac Euros Childs a gewch chi Melin Melyn – mae eu perfformiad byw nhw werth ei weld; llawn hiwmor a hwyl a tiwns diddiwedd.

4. Cotton Wolf
Os ydych chi’n hoff o gerddoriaeth electronig, atmosfferig dyma’r ddeuawd i chi. Mae Lauren Laverne yn ffan mawr a chafodd eu halbwm nhw Life In Analogue hefyd ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig.

5. Ynys 
Dylan Hughes yw Ynys. Mae Dylan yn gyn-aelod o un o fy hoff fandiau erioed – Radio Luxembourg. Mae cerddoriaeth Ynys yn anodd ei ddisgrifio hefyd, rhyw fath o synth-bop ag alawon prydferth. Fe fyddan nhw’n perfformio yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam ar gyfer Dydd Miwsig Cymru.

Darganfyddwch eich ffefrynnau chi drwy wrando ar drac sain Dydd Miwsig Cymru.

Gigs Dydd Miwsig Cymru

Mae yna gigs yn digwydd dros Gymru gyfan benwythnos yma i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Rheswm da iawn i adael y tŷ ar benwythnos oer ym mis Chwefror. Dyma ambell uchafbwynt...

7 Chwefror: Clwb Ifor Bach, Caerdydd – Papur Wal, Los Blancos, Ynys.

7 Chwefror: Cinema & Co, Abertawe – HMS Morris, Cotton Wolf, Rhodri Brooks.

8 Chwefror: Tŷ Pawb, Wrecsam – Adwaith, Eitha Da, Chroma, Worldcub, Melin Melyn, Meilir

Gwrandewch ar-lein neu ewch i’r gigs. Mwynhewch Ddydd Miwsig Cymru.