Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Clonc gydag un o’n dysgwyr Cymraeg

Yma yn y Ganolfan, rydyn ni'n angerddol dros ddwyieithrwydd, ac yn cynnig gwersi Cymraeg ar lefelau gwahanol i’n staff.

Dyma ni’n dal i fyny efo Kirsty Alexander, Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid, sydd newydd gwblhau'r cwrs dwys diweddaraf.

Mae'r cwrs yn rhan o gynllun Cymraeg Gwaith gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yn gyntaf, llongyfarchiadau i ti ar gyflawni’r cwrs. Beth yw dy stori di?

Rwy’n dod o Wlad yr Haf yn wreiddiol, ond wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers wyth neu naw mlynedd – des i yma ar gyfer y Brifysgol. Des i i weithio yma yn y Ganolfan yn syth o’r brifysgol, felly bron i chwe blynedd. Dechreuais fel cynorthwyydd ar y ddesg tocynnau. Rydw i wedi bod yn y rôl yma ers dwy flynedd.

Ers faint wyt ti’n dysgu Cymraeg?

Ers y flwyddyn ddiwethaf yn swyddogol, ond roeddwn yn dysgu ar fy mhen fy hun drwy Duolingo cyn hynny. Nes i wirfoddoli y llynedd yn Tafwyl pan oeddwn newydd ddechrau dysgu, ond rydw i wedi gwella dipyn ers hynny!

"Dwi’n teimlo bod hi’n bwysig i bawb gael mynediad i’r celfyddydau, a hynny yn eu hiaith nhw."

Kirsty 

Pam benderfynaist di ddysgu Cymraeg?

Yn fy swydd i, rydw i’n delio â chwsmeriaid bob dydd, ac roeddwn eisiau rhoi gwasanaeth yn iaith y cwsmer. Dwi’n teimlo bod hi’n bwysig i bawb gael mynediad i’r celfyddydau, a hynny yn eu hiaith nhw.

Hefyd, ar ôl gadael ysgol neu addysg bellach, mae’r cyfle i astudio a dysgu rhywbeth hollol newydd yn brin iawn. Rydw i’n mwynhau dysgu pethau newydd, felly roedd hwn yn gyfle gwych.
Hefyd, mae’n grêt gallu deall y clecs yn y swyddfa!

Sut oedd y cwrs?

Roedd e’n ddwys iawn! Roedden ni’n astudio am 4 awr yr wythnos a chawsom ni hefyd 3 wythnos lawn o Gymraeg bob dydd. Roedd llawer iawn o wybodaeth a phethau i ddysgu. Roedd y tiwtor yn hyfryd. Roeddwn i’n lwcus bod gen i ffrindiau yn dilyn y cwrs hefyd – ac roeddwn yn gallu ymarfer gyda nhw tu allan i’r dosbarth.

Beth yw’r pethau gorau am ddysgu Cymraeg?

Mae’n agor drysau i bethau newydd. Ac wrth gwrs, mae’n grêt gallu deall mwy o bethau sy’n digwydd o’m hamgylch. Dwi wedi bod i wylio cynhyrchiad Cymraeg, sef Nyrsys gan Theatr Genedlaethol Cymru, ac wedi gwylio rhaglenni fel Un Bore Mercher ar S4C ac roeddent yn wych.

Hwyl. Pwysig. Cystadleuol (wel, os oeddech chi yn ein dosbarth ni beth bynnag!)"

Kirsty

Beth fyddet ti’n ei ddweud i unrhyw un sy’n meddwl am ddysgu Cymraeg?

Mae’n llawer o hwyl i ddysgu rhywbeth newydd, ac mae siaradwyr Cymraeg yn hapus i helpu. Cer amdani!