Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
TV SCREENS WITH COLOURED GRAPHICS ON THEM.

Dysgu gyda phrentisiaid ifanc

Dros y misoedd diwethaf mae Coleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) wedi bod yn rhedeg cyrsiau yma'n rheolaidd gyda phrentisiaid ifanc, er mwyn archwilio'r byd technegol a theatr, gan weithio ar sain, goleuo, llwyfannu a mwy.

Dwywaith yr wythnos, mae CAVC yn rhedeg diwrnod gweithdy a diwrnod theori er mwyn rhoi dealltwriaeth ddyfnach a'r sgiliau technegol sydd angen ar y bobl ifanc iddynt weithio yn y diwydiant cyffrous hon.

A pwy a ŵyr, efallai un dydd fe wnawn nhw geisio i ddod yn un o'n prentisiaid technegol a mynd ati i ddatblygu gyrfa gyda ni!

Ar hyn o bryd mae'r cwrs yn rhedeg am ddwy flynedd, gan ddechrau ym Mlwyddyn 10, ac mae hi wedi'i graddio gyda graddau'n cyd-fynd â'u cwrs CAVC.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda CAVC i greu'r profiad orau posib er mwyn annog pobl ifanc sydd eisiau dilyn gyrfa mewn theatr dechnegol, neu eisiau dysgu mwy am y sector greadigol.

Hyd yn hyn y tymor hwn, mae'r prentisiaid wedi bod yn dysgu sut i greu a chynhyrchu digwyddiad. Maent wedi ymweld ag adrannau gwahanol i ddysgu'r sgiliau sydd angen: gweithio gydag artistiaid gwahanol, creu deunydd marchnata a hyrwyddo, ffilmio a dogfennu eu gwaith, a defnyddio'r technegau cyfweld a ddysgant yn ystod eu hyfforddiant Radio Platfform y tymor diwethaf.

Arddangosodd y prentisiaid eu gwaith caled drwy gynhyrchu digwyddiad byw yma ar 8 Ebrill yn ein Glanfa.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am redeg gorsaf radio, creu podlediadau a mwy, ewch i'n tudalen Llais Creadigol i weld yr holl gyrsiau a dyddiadau.

Ash Gray - Cynhyrchydd Cynorthwyol, Prentisiaid a Hyfforddi

Mae sawl un o'r gweithgareddau hyn yn digwydd yn uniongyrchol oherwydd eich rhoddion caredig, aelodaethau ac arian grantiau. Hoffwn hefyd ddiolch i Gyngor Celfyddydau CymruMoondance Foundation a Garfield Weston, The Simon Gibson Charitable Trust am ein galluogi ni i barhau i gefnogi'r dalent creadigol, pobl ifanc a chymunedau sydd angen creadigrwydd nawr mwy nag erioed.