Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Carys Eleri, awdur a pherfformwraig Cer i Garu...sori...GARU

Dyw’r Gymraeg ddim yn secsi!

Buom yn siarad â Carys Eleri am y broses o addasu ei sioe hynod boblogaidd Lovecraft (Not the sex shop in Cardiff) i’r Gymraeg…

Disgrifia’r broses o addasu Lovecraft (not the sex shop in Cardiff).

Roedd y broses yn rili ddiddorol. ‘Nes i ddim mynd ar y 'laptop' a chyfieithu gair am air – dydy hynny byth yn gweithio... Gyda’r sioe wreiddiol Saesneg nes i ddechrau drwy feddwl beth ydw i eisiau dweud, yna’i ddweud e’ mas yn uchel, recordio fe ar fy ffôn, mynd allan am dro ac yna dod nôl a’i drawsgrifio fe.

Mae’r sgil o ysgrifennu a’i ddweud yn uchel - y sgil o’i berfformio - yn ddau beth gwahanol iawn ac mae llawer o’r hiwmor yn y ffordd mae geiriau’n cael eu dweud. Felly roedd angen dechrau gyda dweud y geiriau'n uchel. A dyna oedd y broses gyda’r addasiad Cymraeg hefyd.

Roedd y perfformiad o waith ar waith ‘nes i yn Tafwyl yn yr haf yn fuddiol iawn, achos ar y pryd 'ny roeddwn i wedi cyfieithu wyth allan o ddeg o’r caneuon, ond o ran y sgript roeddwn i jyst yn cyfieithu llawer ohono ar y pryd. Roedd hynny’n lot o sbort, ac yn fuddiol i weld beth oedd yn gweithio. Daeth Daf James i weithio gyda fi fel dramatwrg, ac mae e’ wedi bod yn wych.

Sut oeddet ti’n mynd ati i gyfieithu rhai o’r termau a llinellau o’r sioe Saesneg?

Roedd angen ystyried os oeddwn i’n cyfieithu popeth, oherwydd roedd rhai pethau fel ‘Magic Taxi’ yn gweithio mor dda yn Saesneg. Roedd gen i ofn cyfieithu rhai pethau, rhag ofn bod nhw ddim mor dda yn y Gymraeg. Felly cytunodd Daf a fi ar reol – os nag yw e’ mor dda yn y Gymraeg, ti’n stico ‘da’r Saesneg. Ond y bwriad bob amser yw gwella ar y gwreiddiol.

Dim ond un o’r termau gwyddonol dwi wedi ei gyfieithu’n llawn - sef Memory Fade Bias. Mae llawer o’r termau gwyddonol eraill yn dod o’r Lladin a’r Groeg, ac mae’r ffordd rwy’n dweud y geiriau yma yn Gymraeg yn agosach i’r iaith wreiddiol, sy’n ddiddorol.

Dwi wedi cadw’r sioe yn reit ddwyieithog achos dyna sut dwi’n siarad yn naturiol. Dwi ddim yn siarad Cymraeg perffaith – dwi'n berson hollol ddwyieithog ac yn newid o un iaith i’r llall yn dibynnu ar y pwnc. Mae’r sioe yn Saesneg yn cymryd stwff cymhleth, gwyddonol ac yn creu rhywbeth difyr a llawn hwyl, felly doeddwn i ddim am greu addasiad Cymraeg oedd yn defnyddio Cymraeg anodd neu iaith fyddai’n dieithrio pobl. Roedd yn bwysig i mi fod y Gymraeg ddim yn rhy anodd.

Ydy’r iaith Gymraeg yn secsi?

Dyw’r Gymraeg ddim yn secsi. Bron i fi alw ‘Tit Montage’ yn ‘Bron Fontage’, ond roedd hwnna’n swnio’n farddonol. Mae rhywbeth mwy uniongyrchol a 'punchy' am y Saesneg. Mae’r Gymraeg yn aml yn fwy meddal a blodeuog, felly cadwais ‘Tit Montage’. Mae rhai o’r termau Saesneg yn dal i sefyll ynddo, oni bai bod y Gymraeg yn well.

Beth sy’n newydd yn yr addasiad yma?

Gyda’r addasiad Cymraeg newydd yma, dwi’n gallu rhoi haen newydd o ddiwylliant Cymraeg i mewn - e.e. dwi’n gallu crybwyll Parch achos bydd y gynulleidfa Gymraeg yn ymwybodol taw fi oedd yn chwarae hi. Mae hyn yn ddiddorol i mi.

Beth oedd yr heriau?

Un o’r prif heriau yw’r stamina meddyliol sydd angen arna i wrth berfformio’r sioe. Mae fy ymennydd yn llawn dop! Mae’r broses o ddysgu’r ddrama yn Gymraeg bron fel dysgu iaith newydd – fel gwneud cwrs dwys wythnos o ddysgu iaith newydd. Mor ddwys! Mae cyflymder y sioe hefyd yn her – mae’n bwysig i mi gymryd fy amser ac i fwynhau bob gair – dwi wedi gweithio’n galed ar bob gair.

Beth sydd nesa’ i Carys Eleri?

Wel, dwi newydd gyd-gyflwyno rhaglen Jonathan, ac ar hyn o bryd dwi’n paratoi i ffilmio rhaglen ddogfen am hanes y Cymry’n caru, sy’n lyfli.

Drwy’r rhaglen dwi’n cwrdd â phobl rili cŵl. Bydda i’n ffilmio hwnna yn ystod y daith, ac fydd y rhaglen allan tuag amser diwrnod Santes Dwynwn flwyddyn nesaf. Mae Lovecraft – a nawr Cer i Grafu…sori…Garu wedi agor llawer o ddrysau i fi. Mae o wedi portreadu fi mewn ffordd newydd… Ar ôl gweithio ar ddramâu am flynyddoedd, dwi nawr yn cael fy ngweld mewn ffordd hollol wahanol, sy’n ddiddorol.

Mae Cer i grafu…sori…Garu a Lovecraft (not the sex shop in Cardiff) ar daith ledled Cymru o 19 Hydref, ac yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru 28-30 Tachwedd.