Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Edrych yn ôl ar wythnos anhygoel

Cawsom wythnos arbennig iawn yn ddiweddar wrth chwarae ein rhan yn llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a‘r Fro (27 Mai – 1 Mehefin).

Roedd ein Theatr Donald Gordon ysblennydd yn gartref i berfformiadau a chystadlaethau amrywiol yr ŵyl, ac roedd pob gofod o’n hadeilad yn hafan i gystadleuwyr, grwpiau ysgol, teuluoedd ac ymwelwyr chwilfrydig.

Uchafbwyntiau’r ŵyl

Daeth 100,000 o ymwelwyr drwy’n drysau yn ystod yr wythnos a dosrannwyd 13,190 o fandiau braich.

Dydd Mawrth oedd ein diwrnod prysuraf gyda thua 45,000 o ymwelwyr. Roedden ni’n falch iawn o’n timoedd blaen tŷ, a’r llu o wirfoddolwyr brwdfrydig a roddodd 400 o oriau o’u hamser yn ystod yr wythnos.

Croesawu cynulleidfaoedd newydd

Roedd nifer o ddeiliaid bandiau braich yn gwsmeriaid newydd i’r Ganolfan, a wnaeth bron i draean ohonynt nodi Cymraeg fel eu hiaith ddewisol.

Roeddem ni wrth ein bodd yn croesawu ein cynulleidfa newydd, ac roedd yn gyfle gwych i’r timoedd blaen tŷ ymarfer eu sgiliau iaith.

Roedd yn hynod gyffrous i ni hefyd, fel canolfan celfyddydau cenedlaethol Cymru, bod cystadleuwyr o bob rhanbarth yng Nghymru, a thu hwnt, wedi cystadlu ar eu llwyfan cenedlaethol.

‘Mae cael y cyfle i berfformio ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru wedi bod yn brofiad bythgofiadwy i’r bobl ifanc a fu’n cystadlu, profiad fydd yn eu hysbrydoli nhw am flynyddoedd i ddod’.

Dyfrig Davies, Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru

Cystadlaethau

Roedd safon y cystadlu a brwdfrydedd pawb a fu’n rhan o’r ŵyl yn ysbrydoledig i ni, a hoffem ni ddweud llongyfarchiadau wrth bawb a fu’n rhan o’r ŵyl arbennig yma, a diolch.

Diolch i chi am ddod a’ch doniau, angerdd a brwdfrydedd atom ni. Dewch yn ôl i’n gweld ni eto’n fuan.

Draw ar gyfryngau cymdeithasol...

@LowriSchiavone: …profiad grêt perfformio ar lwyfan @YGanolfan #eisteddfod19

@CatrinElisWms: Profiad bythgofiadwy iddynt gael perfformio (ac ennill!) ar lwyfan @YGanolfan, diolch o galon i athrawon ymroddgar @ysgolygarnedd!

@EllenAngharad: Brilliant evening at @theCentre performing with @AthenaTrio in the opening concert of the @EisteddfodUrdd in Cardiff! Dwi’n cofio cerdded ar lwyfan Theatr Donald Gordon @YGanolfan i gystadlu yn yr Eisteddfod nol yn 2009, fraint cael bod yn rhan o’r sioe arbennig yma! @Urdd