Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Lleisiau Cymru yn Rhithwirioneddol

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd dros yr haf. Camwch i mewn i’n Byd Rhithwir ac ymdrochwch eich hun mewn profiadau anhygoel newydd am ddim.

Rydyn ni'n darparu setiau rhithwir Oculus Pico sydd wedi'u llwytho'n barod gydag amrywiaeth o brofiadau gwefreiddiol i chi eu mwynhau.Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwisgo'r set rithwir ac ymgolli yn y profiad.

Mae ein ffilm rhithwirioneddol diweddaraf, Lleisiau Cymru yn cynnwys rhai o'r gigiau cerddoriaeth Cymreig anhygoel sydd wedi digwydd dros y 12 diwethaf ledled y wlad.

Lleisiau Cymru

Ffilmiwyd Lleisiau Cymru fel fideo ymdrochol 360º, gan gyfleu hudoliaeth y foment, a hynny drwy chwe lens hemisfferig sy’n eich cludo i Glwb Ifor Bach, Festival No.6 a’r Gŵyl Green Man i brofi’r cyfan dros eich hun.

Cafodd y chwe trac eu recordio a’u cymysgu mewn sain 360º, gan drin bob golygfa ymdrochol fel sffêr 360º sy’n llawn sain, gyda chi yn y canol.

Dewch i ddarganfod Adwaith, y grŵp o ferched grymus Cymreig, y canwr a’r offerynnydd gwerin The Gentle Good; y cyfuniad egnïol, Astroid Boys; sŵn club-jazz-rap Afro Cluster, côr meibion Y Brythoniaid, a seiniau electronig unigryw Marged.

Dilynwch y cerddorion Cymreig yma drwy dirweddau dramatig, a chlywed beth mae’n ei olygu i fod yn artist yng Nghymru heddiw.

AMSEROEDD AGOR- BYD RHITHWIR

10am - 1pm a 2pm - 5pm bob dydd drwy gydol wyliau'r haf, drws nesaf i Gaia.

DIOGELWCH RHITHWIR (VR)

Noder, os gwelwch yn dda: efallai na fydd profiad rhithwir a chynnwys 360 yn addas i chi.

Oherwydd natur ymdrochol setiau rhithwir, mae rhai gwylwyr yn profi teimlad o ddryswch, yn colli cydbwysedd tra’n sefyll, neu’n teimlo’n sâl.

Os ydych yn dioddef unrhyw un o’r rhain, argymhellir eich bod yn gadael y dom.

Os ydych yn dueddol o gael eich effeithio gan oleuadau strôb a cherddoriaeth gyflym/gyffrous, efallai na ddylech wylio’r ffilm 360 yma.

Canllaw oed i wylwyr yw 12+

Prosiect wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.