Yn anffodus, fydd Gŵyl y Llais ddim yn cael ei chynnal eleni. Roedd yn benderfyniad anodd, ond yn un roedd rhaid i ni ei wneud oherwydd ansicrwydd ynghylch cynnal digwyddiadau cerddorol yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Ond mae newyddion da hefyd. Roedd ganddon ni artistiaid gwych ar y rhestr, ac mae 2021 yn argoeli i fod yn well fyth.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal nawr rhwng 4 a 7 Tachwedd 2021. Cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol i weld mwy o newyddion a diweddariadau am artistiaid.