Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Young people stood outside a building holding a Welsh flag

Fi a Chenedlaethau'r Dyfodol

Yn ddiweddar, graddiodd Molly Palmer (aelod o dîm Radio Platfform) o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol. Dyma Molly yn trafod ei phrofiadau anhygoel fel aelod o'r Academi.

Ym mhle oeddwn i pan ges i’r alwad yn gofyn i mi gynrychioli Canolfan Mileniwm Cymru yn Academi Cenedlaethau’r Dyfodol ochr yn ochr ag arweinwyr ifanc eraill o Gymru?

Wel, yn ddigon rhyfedd, doeddwn i ddim yng Nghymru. Roeddwn i yn Llundain. Ac, yn wir, roeddwn i nôl yn Llundain llai na deufis yn ddiweddarach, a hynny fel un o 10 o’r bobl ifanc cyntaf o Gymru i gynrychioli ein gwald yn uwch-gynhadledd One Young World, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o bedwar ban byd.

Mae’r holl brofiad wedi bod yn siwrne anhygoel.

Menyw ifanc yn gwisgo trwsys siec a chrys du, a gwên ar ei hwyneb
Molly yn uwch-gynhadledd One Young World

Pan ymunais â’r Academi doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl. A bod yn hollol onest, doeddwn i erioed wedi clywed am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Ond, dros y 12 mis diwethaf rydw i wedi dod i ddeall mor unigryw yw’r Ddeddf a faint o waith sydd angen ei wneud i wella arweinyddiaeth ledled y byd.

Cwrddais â’m cyd aelodau o’r Academi cyn y daith honno i Lundain. Y peth cyntaf i mi sylwi oedd mor glyfar oedd bawb. Roedd Emily-Rose peiriannydd geodechnegol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, yn eistedd ar fy ochr dde, ac i’r chwith oedd Chris, swyddog amgylcheddol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gofynnais i mi fy hun, “Sut mae rhywun fel fi sy’n gweithio i orsaf radio yn mynd i gydweithio â pheiriannydd? Beth ydw i’n gallu ei gyfrannu i’r sgwrs hollbwysig yma?” Yr hyn a wyddwn oedd bod gen i gyfle gwych i ddylanwadu ar newid, felly fe es i amdani a bachu ar bob cyfle.

Dros y 12 mis diwethaf rydyn ni wedi teithio hyd a lled Cymru, yn cymryd rhan mewn gweithdai sy’n gwella ein sgiliau arwain ac yn ehangu ar ein dealltwriaeth o arweinyddiaeth. Fel y soniais, aethon ni  i Lundain i fynychu uwchgynhadledd One Young World. Roedd hi’n hyfryd bod yno ymhlith miloedd o bobl o’r un meddylfryd. 

Grŵp o bobl yn eistedd wrth fwrdd hir a dyn yn sefyll ac yn siarad â nhw.

Erbyn hyn, yn sgil y Coronafeirws mae’r Academi yn edrych yn wahanol. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi siarad gyda llawer o wahanol arweinwyr, ac wedi gweld yr arweinwyr hyn yn gorfod cymryd yr awenau ac arwain mewn ffyrdd tra newydd mewn cyfnod hollol ddigynsail.

Rydyn ni wedi siarad gydag arweinwyr megis Michael Sheen a Jeremy Miles MS ymhlith eraill. Un o’m huchafbwyntiau personol i oedd cael fy ngwahodd fel siaradwr gwadd i Gynhadledd Amgylcheddol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth. Roedd yn brofiad gwbl anhygoel cael rhannu’r llwyfan gyda’r enwog Richard Parks a chael ysbrydoli pobl ifanc, gan eu hatgoffa o’r pŵer sydd ganddynt.

Rydw i wedi datblygu gymaint yn ystod y broses yma. Mae’r broses wedi dylanwadu fy newisiadau personol – o ffasiwn i fwyd – gymaint, ac wedi dylanwadu ar fy newisiadau proffesiynol megis sut rwy’n cydweithio â fy nghydweithwyr hyfryd.

Rydw i wedi dysgu bod angen edrych ar bopeth gyda llygad gritigol, a gofyn i mi fy hun, “Sut y gallwn ni wella ar hwn a’i wneud yn fwy cynaliadwy/cynhwysol/blaengar?” ac mae’r rhestr yn parhau.

Y gwir yw, mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i wneud ein gorau er mwyn creu newid cadarnhaol yn y byd.

Does dim rhaid i ni fod yn arbenigwyr ar gynaliadwyedd, ond mae lleihau ein defnydd o ddŵr, prynu llai o blastig, cerdded pan yn bosib, cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol fel casglu sbwriel ac yn gyffredinol bod yn garedig â’n gilydd yn mynd yn bell.

Un peth sydd wedi fy nharo i drwy gydol yr Academi yw’r syniad bod modd datrys problemau arweinyddiaeth cyfredol drwy fyfyrio ar arweinyddiaeth flaenorol.

Pan edrychwn ar arweinyddiaeth gyntefig a brodorol daw themâu clir i’r amlwg; gonestrwydd, addysgu, dysgu, adlewyrchu, dilysrwydd, ffocysu ar ddynoliaeth a gweithredu er lles pawb ac nid er elw personol.

Mae Jacinda Ardern yn unigolyn sy’n rhoi’r themâu hyn wrth galon ei harweinyddiaeth fodern. Nid yn unig yw hi’n ddynes sy’n rhagori yn ei gwaith, a hynny mewn maes sy’n llawn dynion, ond mae hi’n gwneud ei gwaith mewn modd penderfynol a chanddi ddim ofn torchi ei llewys.

Mae gymaint o esiamplau o arweinyddiaeth wych Ardern. Mae ganddi berthynas mor dda â’i chymunedau, ac o ganlyniad rydyn ni’n gweld Seland Newydd yn mynd o nerth i nerth – yn enwedig yn ystod y pandemig.

Nid gwisgo dillad crand yw arweinyddiaeth. Nid rhoi areithiau hir yn llawn geiriau cymhleth na fydd unrhyw un yn eu deall, na chuddio mewn swyddfa gyda’r drws ar gau mo arweinyddiaeth.

Mae arweinyddiaeth yn gofyn i chi fod ar gael i bobl, a gwrando – gwrando GO IAWN. Mae’n gofyn i chi feddwl yn greadigol er mwyn datrys y problemau rydych chi’n eu hwynebu.

Mae arweinyddiaeth go iawn yn golygu bod yno pan fydd problem, a gweithio tuag at ddatrysiadau cynaliadwy i broblemau. Mae’n hollbwysig bod gennych chi brofiad o’r byd go iawn a dealltwriaeth o gymunedau – nid yn unig y gymuned rydych chi’n perthyn iddi.

Er mwyn arwain yn effeithiol mae angen i chi gael profiad o’r problemau rydych chi’n eu hwynebu. A hyd yn oed os ydych chi’n wynebu sefyllfaoedd anghyfarwydd nad oes gennych chi ddealltwriaeth na phrofiad personol ohonynt, mae angen arwain gydag empathi er mwyn helpu’r gymuned sy’n cael ei heffeithio.

Menyw ifanc yn sefyll ac yn siarad i feicraffon.
Molly yn siarad yn ein digwyddiad Hacio Bywyd 2019

Daw arweinyddiaeth ar sawl ffurf. P’un ai’ch bod chi’n arwain y grŵp Sgowtiaid lleol neu’n Brif Weinidog – rydych chi’n dylanwadu ar rywun ifanc ac argraffadwy. Meddyliwch yn ôl i pan oeddech chi’n ifanc… pwy ddylanwadodd arnoch chi? Rhieni, sêr pop, actorion, athrawon, gwleidyddion?

Waeth beth yw maint eich sefydliad neu’ch swydd chi yn y sefydliad hwnnw, mae newid yn dod o’r tu fewn. Drwy annog ein gweithwyr i ddod ynghyd a chreu datrysiadau creadigol mae gennym y potensial i ysgwyd y system rydyn ni’n byw ynddi. System na sy’n buddio nac ychwaith yn ystyried lles ein cenedlaethau’r dyfodol. Gallwn ddechrau o’r newydd.

Mae’n bwysig annog cwestiynau, croesawu syniadau gwirion a chynnwys eich cydweithwyr yn eich siwrne – drwy fentora o chwith, er enghraifft. Mae angen i arweinwyr heddiw ystyried sut mae eu penderfyniadau yn cael effaith nid ar gymdeithas heddiw, ond ar gymdeithas eu gor-wyrion.

Nid yw system gyfredol nifer o’n harweinwyr presennol o “brynu nawr a thalu’n hwyrach” yn gynaliadwy. Felly, gawn ni obeithio y bydd arweinwyr y dyfodol yn amrywiol, yn wydn, yn feddwl agored, yn berthnasol ac mewn cysylltiad go iawn efo’r bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu.