Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Pump rheswm dros ddod i weld A Night at the Musicals

Ymunwch â ni am noson o swyn a hudoliaeth ddiedifar y mis Mehefin yma, pan daw David Mahoney yn ôl i’r Ganolfan gyda chast o sêr a’r Novello Orchestra, un o gerddorfeydd sioe gorau’r DU, sy’n nodedig am eu hangerdd a charisma.

Dyma David yn trafod pam na ddylid neb golli A Night at the Musicals ar 23 Mehefin 2019 yn Theatr Donald Gordon.

1. Sêr y West End a Broadway

Canolfan Mileniwm Cymru yw un o theatrau gorau’r byd, a phleser pur yw croesawu rhai o gantorion amlycaf y West End a Broadway i’r llwyfan adnabyddus yma ar gyfer cyngerdd arbennig.

Bydd David Thaxton, enillydd Olivier sydd newydd fod yn chwarae rhan y Phantom yng nghynhyrchiad y West End o Phantom of the Opera; John Owen-Jones, a fu’n chwarae rhan Jean Valjean yn Les Misérables i ganmoliaeth uchel; enillydd rhaglen y BBC Over the Rainbow, Danielle Hope; a’r gantores flaenllaw Kerry Ellis, sydd wedi chwarae rhannau niferus yn y West End a Broadway, gan gynnwys Elphaba yn sioe Wicked.

2. Caneuon anhygoel o’r Sioeau Cerdd fwyaf poblogaidd

Bydd A Night at the Musicals yn cyflwyno 26 cân o 20 sioe gerdd wahanol.

O Wicked i Les Misérables, Chicago i Phantom of the Opera, bydd ein cast anhygoel o gantorion penigamp yn perfformio rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd theatr gerdd, mewn noson o swyn a chyfaredd ddiedifar.

3. Y Novello Orchestra

Gyda’i holl angerdd a charisma, fe ystyrir y Novella Orchestra yn un o gerddorfeydd sioeau gorau’r DU.

Dan gyfeiliant David Mahoney, mae perfformiadau hudolus y gerddorfa wedi swyno cynulleidfaoedd a pherfformwyr ym mhell ac agos.

O’r adran linynnau disglair a chynnil i ‘razzmatazz’ a drama’r adran bres a rhythmau pwerus yr adran daro, mae’r gerddorfa yn mynnu'r un sylw a’r cantorion.

Mae’r Novello Orchestra yn rhoi dehongliad chwaethus o rhai o’r caneuon fwyaf poblogaidd o fyd y sioe gerdd, yn ogystal â detholiad cyfoes o ganeuon o fyd ffilmiau.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r gerddorfa wedi datblygu i fod yn un o ensembles mwyaf blaenllaw cerddoriaeth ffilm, drwy daith o berfformiadau byw i ffilm (Film with Live Orchestra) yn cynnwys Beauty and the Beast gan Disney, The Jungle Book, La La Land, Star Wars a Pixar in Concert.

4. Amser am barti

Mae A Night at the Musicals yn un o’r profiadau yna dylid neb ei golli. Mae’n fwy na chyngerdd. Mae’n noson o adloniant pur gyda digon o bethau annisgwyl ar hyd y ffordd. Mae’r cynhyrchwyr yn annog dawnsio a morio canu – felly dewch a mwynhau profiad gwerth chweil!

5. Y cyntaf o lawer

Lucie Jones

Dyma’r cyntaf o dri chyngerdd gan y Novello Orchestra yng Nghanolfan Mileniwm Cymru'r tymor yma.

Yn ystod mis Tachwedd daw Lucie Jones, Noel Sullivan, Connie Fisher ac Ian ‘H’ Watkins i’r llwyfan ar gyfer ‘Movie Mixtape: Songs from the Silver Screen’. Bydd y carped coch yn barod ar gyfer noson llawn hud y sinema, gan gynnwys rhai o’r caneuon mwyaf eiconig a ddaeth yn enwog drwy ffilmiau.

Ac ym mis Mawrth 2020, byddwn yn cofleidio popeth sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth Soul, RnB a Motown, gyda chyngerdd ‘Heart and Soul’.