Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Pump o Sioeau Campus ar gyfer 2019

Mae ganddon ni flwyddyn gyffrous o'n blaenau, gyda llond gwlad o sioeau i'ch diddanu. Dyma ragflas i chi i aros pryd.

Jersey Boys: The Story of Frankie Valli & The Four Seasons

16 – 26 Ionawr 2019

Jersey Boys

Mae Jersey Boys yn ffenomen yn y West End, a'r sioe wedi ennill 55 o wobrau o bwys o gwmpas y byd.

Dilynwch hynt a helynt Frankie Valli a'r bechgyn oddi ar ochr dywyll y trac, criw a fu'n cymysgu gyda'r Mob yn ogystal â chreu cerddoriaeth anhygoel.

THE FULL MONTY

11 – 16 Mawrth 2019

Full Monty

Dyma sioe ddoniol a theimladwy am chwe gweithiwr dur di-waith o Sheffield. Mae'r sioe yma – sydd wedi ennill gwobr fawreddog Gwobr Theatr Prydain – wedi llwyddo i godi'r gynulleidfa ar eu traed ar ddiwedd pob perfformiad, gyda chast o sêr a thrac sain gwefreiddiol sy'n cynnwys caneuon gan Donna Summer a Tom Jones.

MOTOWN THE MUSICAL

26 Mawrth – 6 Ebrill 2019

Motown The Musical

Dewch i glywed y stori y tu ôl i Motown; y perthnasau personol, y brwydrau proffesiynol, a'r gerddoriaeth a lwyddodd i gael y byd i gyd yn symud i'r un curiad.

Dyma sioe sy'n cynnwys dros 50 o glasuron Motown, gan gynnwys: My Girl, What’s Going On, Dancing in the Street, ac Ain’t No Mountain High Enough – byddwch chi'n siŵr o gael eich tynnu i guriad y gân.

THE BODYGUARD

16 – 27 Ebrill 2019

The Bodyguard

Mae'r cynhyrchiad rhyfeddol yma, yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd, wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd gyda'r enillydd X-Factor a enwebwyd am dair gwobr Brit, Alexandra Burke, yn chwarae rhan Rachel Marron. Disgwyliwch yr holl glasuron yn y sioe gyffro ramantus yma.

CALENDAR GIRLS THE MUSICAL

30 Ebrill - 11 Mai 2019

Calendar Girls

Mae'r cynhyrchiad llwyddiannus yma gan Gary Barlow a Tim Firth yn adrodd stori criw o ferched digon cyffredin a gyflawnodd rywbeth anghyffredin. Dyma sioe gerdd gomedi fendigedig sy'n dod yn syth o'r West End yn Llundain – peidiwch â'i methu.

Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat 

14 – 18 Mai 2019

Dyma sioe deuluol sy'n adrodd stori Feiblaidd, sef hanes Joseff, ei un ar ddeg o frodyr a'i got amryliw. Sioe sy'n cynnwys rhai o ganeuon gorau Syr Andrew Lloyd Webber a Tim Rice, gan gynnwys Go, Go, Go Joseph, Any Dream Will Do, Close Every Door to Me a mwy.

Rhyddid WNO

7 Mehefin – 23 Mehefin 2019

Ymunwch ag Opera Cenedlaethol Cymru wrth iddyn nhw roi sylw i gyfiawnder, rhyddid a hawliau dynol ar gyfer Tymor yr Haf trawiadol a theimladwy yn 2019.

Bydd pedair opera wedi'u llwyfannu'n rhannol, ac un wedi llwyfannu'n llawn, gan gynnwys: Dead Man Walking gan Jake Heggie, The Consul gan Menotti, The Prisoner a Fidelio Act II gan Dallapiccola a Beethoven yn y drefn honno, a Brundibár gan Krása.

 KINKY BOOTS

22 Gorffennaf – 3 Awst 2019

Kinky Boots

Mae'r sioe gerdd ffresh a champus yma yn dod i Gaerdydd ar ei thaith gyntaf erioed o gwmpas gwledydd Prydain.

O'r hen ffatri yn Northampton sydd wedi gweld dyddiau gwell i sioeau ffasiwn moethus Milan, mae'r ddeuawd annhebygol Charlie Price a'r frenhines ddrag Lola yn penderfynu rhoi eu stamp eu hunain ar y busnes teuluol, ac mae drag yn drech na thraddodiad.

ANNIE

19 – 31 Awst 2019

Annie

Mae'r adfywiad bendigedig yma yn mynd â ni'n ôl i Efrog Newydd y tridegau, lle mae Annie fach ddewr yn ceisio cadw'i phen yn uchel yng nghartref plant diflas Miss Hannigan.

Mae popeth yn newid pan mae hi'n cael ei dewis i dreulio Nadolig hudolus gyda'r biliwnydd enwog Oliver Warbucks, ond fydd Annie'n gallu darganfod ei theulu go iawn cyn i'w lwc ddod i ben?

GREASE

15 – 19 Hydref 2019

Grease

Dewch â'r teulu cyfan i fwynhau taith newydd o gwmpas gwledydd Prydain ac Iwerddon o'r sioe gerdd lwyddiannus Grease, fydd yn cynnwys caneuon fel Summer Nights, Greased Lightnin’, Hopelessly Devoted to You a You’re the One That I Want.

Bydd mwy o'r llon a mwy o'r lleddf yn y cynhyrchiad newydd sbon yma sy'n dilyn y ddau gariad ifanc Sandy a Danny wrth iddyn nhw wynebu hynt a helynt bywyd yr arddegau yn ystod eu blwyddyn olaf yn ysgol Rydell High.

EDDIE IZZARD

5 – 6 Tachwedd 2019

Mae Eddie'n dod yn ôl i'w wreiddiau gyda sioe newydd sbon sy'n ymhelaethu ar ei safbwyntiau unigryw a swrealaidd am fywyd, cariad, hanes a'i 'ddamcaniaeth am y bydysawd'.

Mae ei sioe newydd yn trafod popeth o'r hil ddynol yn ystod y 100,000 mlynedd diwethaf i gŵn sy'n siarad ac anifeiliaid sy'n archarwyr. Mae Wunderbar yn rhoi cipolwg ar fyd swrealaidd a rhyfeddol Eddie Izzard.

LES MISÉRABLES

26 Tachwedd 2019 – 4 Ionawr 2020

Les Miserables

Am y tro cyntaf ers deng mlynedd, bydd y sioe gerdd orau erioed yn dod i ymosod ar y baricedau yma yng Nghaerdydd, mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Dyma sioe gerdd dorcalonnus yn seiliedig ar glasur o nofel Victor Hugo. Mae'n cynnwys y caneuon I Dreamed A Dream, On My Own, Bring Him Home a llawer mwy. Peidiwch â'i methu.