Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ffocws ar Ffotograffiaeth

Mae ein harddangosfa ddiweddaraf yn cyflwyno ffotograffiaeth gan bobl ifanc Dduon, Asiaidd ac amrywiol ethnig o Gaerdydd a'r cyffiniau. Mae'r arddangosfa i'w gweld yn ein ffenestri blaen ar hyn o bryd.

bloc o fflatiau

Ar ôl darllen adroddiadau ynglŷn â thangynrychiolaeth gweithwyr creadigol Duon, Asiaidd ac amrywiol ethnig ledled y DU, cafodd Yusuf Ismail, ffotograffydd brywd a chyd-sylfaeneydd stiwdio greadigol newydd o'r enw Unify, ei ysbrydoli. Sylweddolodd fod gan y genhedlaeth iau ddylanwad mawr ar eu cymunedau, a’r gallu i newid ffordd o feddwl a safbwyntiau ynghylch diwylliant, amrywiaeth a chynhwysiant.

"Ein nod wrth greu'r gweithdy oedd creu rhaglen mor gynhwysol â phosib gyda phartneriaid lleol megis Canolfan Mileniwm Cymru, Cyngor Caerdydd a Choleg Gwent. Roedden ni am roi cyfle i bobl ifanc ein dinas ddysgu am y celfyddydau creadigol a chael mynediad atynt, waeth be fo'u cefndir. Gobeithiwn adeiladu ar hyn a'i weithredu ar raddfa fwy yn y dyfodol agos iawn."

Yusuf Ismail

Aeth ati i ddatblygu gweithdai wyneb-yn-wyneb ar gyfer myfyrwyr Duon, Asiaidd ac amrywiol ethnig 14-18 oed, sy’n pontio o TGAU i Addysg Bellach.

Bydd y prosiect yn cyflwyno tair sesiwn ffotograffiaeth ar benwythnosau i bobl ifanc o’r gymuned Ddu, Asiaidd ac amrywiol ethnig yng Nghaerdydd a’r ardal.

Bwriad y prosiect yw darparu sgiliau a phrofiad o’r sector creadigol fel maes cyflogaeth i’r unigolion hynny na fyddai’n credu ei fod yn agored iddynt.

pâr o esgidiau ymarfer gwyn

"Rydym yn falch iawn o'n lleoliad yn Nhrebiwt. Pan ofynnwyd i ni gefnogi pobl ifanc o gymunedau Duon, Asiaidd ac amrywiol ethnig i gymryd rhan mewn ffotograffiaeth, roeddem am ei galluogi i adeiladu cysylltiadau gyda ni, a chael cyfle i arddangos eu gwaith. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut fydd y prosiect yn datblygu"

Gemma Hicks, Cynhyrchydd Ymgysylltu Cymunedol 

Daw'r gwaith sy'n cael ei arddangos o'r sesiwn gyntaf ac mae'n cynnwys delweddau gan Amara Neale, Ayaan Hassan, Edu Ada, Ibado Hussein, Kizzi Holland, Saynab Isman a Suhur Musa.

Dyma brosiect arloesol newydd dan arweiniad Unify, Coleg Gwent, Cyngor Caerdydd a Rumourless Cities gyda chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru.