Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
image by cottonbro. Mans Face With Blue and White Paint

Galwad am Waith Celf Cyhoeddus

Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau gan unigolion, grwpiau cymunedol a/neu grwpiau cymunedol celfyddydol o Cymru i greu darn o gelf gyhoeddus i'w harddangos ar ein ffens allanol.

Bydd pedwar darn o waith celf yn cael eu harddangos dros y chwe mis nesaf.

Bydd dau gylch o geisiadau gyda dau ddarn o gelf yn cael eu dewis bob tro. Bydd y ddau ddarn cyntaf yn cael eu harddangos rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020 a'r ddau nesaf rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021.

Ein ffens allanol ar Bute Place lle caiff y gwaith celf ei arddangos
Ein ffens allanol ar Bute Place lle caiff y gwaith celf ei arddangos

Mae tâl o hyd at £500 ar gael am y gwaith celf yma'n seiliedig ar gyfradd o £125 y dydd am dri diwrnod a £125 ychwanegol ar gyfer deunyddiau.

Thema'r prosiect

Thema'r prosiect yw Mae Bywydau Pobl Dduon o Bwys, gan ein bod yn gobeithio y bydd yn rhoi llwyfan i'r lleisiau sy'n galw am newid gyda'r neges bwysig yma.

I wneud cais ar gyfer y rownd gyntaf, anfonwch ddisgrifiad a/neu ddyluniad eich gwaith celf gyda dolen at eich gwefan neu'ch proffiliau cyfryngau cymdeithasol os oes gennych rai, neu wybodaeth am y math o waith rydych chi'n ei wneud.

Rydyn ni’n gofyn i artistiaid gael eu hysbrydoli gan y mudiad Mae Bywydau Pobl Dduon o Bwys a’r ysfa am gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Rydyn ni’n croesawi ceisiadau gan artistiaid, grwpiau cymunedol a grwpiau cymunedol celfyddydol du ac o amrywiaeth ethnig, yn ogystal ag unrhyw berson du neu o amrywiaeth ethnig, neu berson ifanc sy’n gwneud cais ar eu liwt eu hunain neu gyda chefnogaeth unrhyw sefydliad.

Mae hwn yn brosiect cyllidebu cyfranogol sy’n rhan o’n Rhaglen Ymgysylltu â’r Gymuned, felly bydd ceisiadau yn cael eu cyflwyno i Ganolfan Mileniwm Cymru, ond yr ymgeiswyr eu hunain fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch pa weithiau sy'n cael eu harddangos, a hynny drwy broses ddemocrataidd heb ddim mewnbwn gan y Ganolfan.

Anfonwch eich cais at cymuned@wmc.org.uk erbyn dydd Gwener 14 Awst 2020, os gwelwch yn dda.

Cefndir

Dros y misoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn siarad am yr angen i newid yr anghydbwysedd strwythurol a sefydliadol sy'n gwneud i'r Ganolfan a'r celfyddydau yn ehangach deimlo'n anghynhwysol.

Mae'r Ganolfan yn cael ei herio'n barhaus am ei dull gweithredu, sut mae'n gweithio gyda phobl, ei chynulleidfaoedd, ei chymunedau lleol, sut mae'n gwario ei chyllidebau ac ati, ac mae pobl yn dweud wrthym yn aml fod rhai'n teimlo na chawn nhw byth arddangos eu gwaith yn ein gofodau, perfformio yn ein gofodau neu rannu llwyfan â rhai o'r enwau a welwn yn aml mewn goleuadau mawr.

Rydyn ni am wneud yn siŵr nad dyma brofiad na theimladau pobl sydd am berfformio neu gymryd rhan yn y celfyddydau a gyda'r sefydliad yma.

Yn raddol, rydyn ni wedi bod yn meithrin dull i wneud yn siŵr bod pobl o bob cwr o'r de yn gallu gwneud penderfyniadau a llywio'r hyn sy'n digwydd yn y Ganolfan.

Gwaith celf yn ein Gwledd Diwrnod Rhyngwladol Merched
Gwaith celf yn ein Gwledd Diwrnod Rhyngwladol Merched

Mae'r Gwleddoedd Cymunedol y gwnaethon ni sôn amdanyn nhw ychydig fisoedd yn ôl yn un rhan o'r dull gweithredu yma; maen nhw'n cael eu cyd-gynllunio â chymunedau ac yn cael eu darparu ar y cyd â nhw. Ac rydyn ni am wneud mwy o hyn gan ddefnyddio model cydgynhyrchu, a chymunedau yn ganolog iddo.

Cyn i'r adeilad gau, buon ni'n dechrau archwilio cyllidebu cyfranogol ac fe lansion ni brosiect lle gwnaethon ni gomisiynu artistiaid cymunedol i gyflwyno cynnig; i greu darn o waith celf i'w arddangos tu allan i Stiwdio Weston.

Nid y Ganolfan oedd yn gwneud penderfyniad ynghylch y comisiwn, ond yn hytrach, y rhai a ymgeisiodd i gymryd rhan. Cafodd y penderfyniad ei roi yn eu dwylo nhw, a oedd yn gwneud y broses yn deg ac yn gyfiawn.

Cafodd y comisiwn cyntaf ei roi i Citrus Arts, oedd yn golygu bod modd iddyn nhw ddatblygu darn o waith celf gyda Phrosiect gan Gymorth i Ferched yn Rhondda Cynon Taf. Doedd y merched a'u teuluoedd erioed wedi bod i'r Ganolfan cyn i'w gwaith gael ei arddangos.

Gwaith celf o gomisiwn Citrus Arts
Gwaith celf o gomisiwn Citrus Arts

Heb y cyfle yma, mae'n bosib na fydden ni erioed wedi cwrdd â'r merched yma, ac rydyn ni mor falch bod ymwelwyr â'r Ganolfan ym mis Mawrth wedi gallu gweld eu harddangosfa'n hongian yn ein gofod, ac yn adrodd eu stori.

"Roedd hi'n ddiddorol ac yn addysgiadol iawn darllen ceisiadau pawb arall, i weld yr ystod o weithiau celf cymunedol oedd yn cael eu cyflwyno. Diolch am hynny! Fe helpodd ni i deimlo ychydig mwy o gyswllt â'r gymuned Gelfyddydol yn y de, gan ein bod ni'n gallu teimlo braidd yn ynysig yn y Cymoedd." Adborth gan yr arlunydd Catrin Doyle ar y broses o ddewis y comisiwn cyntaf."

Adborth gan yr arlunydd Catrin Doyle ar y broses o ddewis y comisiwn cyntaf

Mae hwn, ein prosiect celf cyhoeddus diweddaraf – i'w harddangos ar ein ffens allanol sy’n amgylchu rhannau o’r Ganolfan, yn hytrach na tu fewn – yn barhad o'r gwaith yma sy'n dod o hyd i ffyrdd o feithrin cysylltiadau a gwella'r ffordd rydyn ni'n gweithio er mwyn bod yn fwy cydweithredol a chynhwysol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â’r prosiect yma, ebostiwch fi ar community@wmc.org.uk.

Rydyn ni ar bigau’r drain isio gweld pa syniadau a ddaw!