Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cael mwy allan o wirfoddoli

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dathlu eu penblwydd yn 50 gyda phryd o fwyd gyda ffrindiau, ond nid Carol Fry... 

Penderfynodd Carol abseilio oddi ar to ein hadeilad, yn codi £1,069 anghygoel yn y proses - y person a chododd y fwyaf o arian ar gyfer y digwyddiad cyfan - felly roeddwn i eisiau dod i nabod y fenyw arbennig yma'n well.

Sut glywsoch chi am wirfoddoli?

Welais i post ar Twitter ac ychydig o bosteri am wirfoddoli yn y cyntedd. Roeddwn i wedi bod yn edrych am rywbeth i wneud yn fy amser sbâr ac roedd yn erbych fel lle gwych i fod. 

Ydych chi wedi gwneud unrhyw wirfoddoli o'r blaen?

Ydw, rwy'n gwirfoddoli gyda'r National Trust yng Ngŵyr, lle rydw i'n palu am bethau o bob math!

Pam wnaethoch chi benderfynu i wirfoddoli yma?

Roeddwn i angen gwenud rhywbeth i fod allan o'r tŷ. Roeddwn i ychydig yn gaeth i'r tŷ, o dan straen ac eisiau treulio amser ag oedolion, gan fy mod i'n gweithio trwy'r dydd gyda phlant bach.

Sut fyddech chi'n disgrifio eich shifft arferol?

Mae shifft arferol yn dechrau gyda briffio cyn-sioe sydd yn hwyl bob tro; yn cymdeithasu â ffrindiau yma a pharatoi ar gyfer y sioe. 

Rydw i'n mwynhau cwrdd â phobl newydd a helpu unrhyw bryd y gallaf a dydych chi byth y gwybod pwy rydych chi'n mynd i gwrdd - ffrindiau, enwogion neu rhywun sydd angen help llaw. Mae ein cynulleidfaeodd yn hyfryd. 

Pa sioeau ydych chi wedi gweld yn 2019?

Y rhan fwyaf ohonynt! Rwy'n meddwl fy bod i wedi bod yma fel cwsmer sy'n talu ar gyfer bron popeth. 

Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt i chi?

War Horse, Matilda ac Art. Doeddwn i ddim yn disgwyl mwynhau Matilda, ond roeddwn i wir wedi mwynhau ac yn y diwedd, fe wnes i wirfoddoli am 17 shifft. 

Beth sydd wedi eich syfrdanu fwyaf wrth wirfoddoli?

Doedd gennyf i ddim syniad bod cymaint o leoliadau yma a'r amrywiaeth eang o bethau sydd yn digwydd yma o ddydd i ddydd. 

Sut mae gwirfoddoli yn wedi eich helpu chi?

Mae gwirfoddoli bod yn hynod fuddiol i mi. Weithau rwy'n teimlo'n bryderus wrth ymweld â llefydd newydd, felly mae gen i rheswm cyfreithus erbyn hyn i adael y tŷ.

Rydw i wedi dioddef o broblemau iselder difrifol, ac mae hyn wir wedi fy helpu; bod o amgylch pobl hyfryd o gefndiroedd amrywiol sydd yn eich derbyn chi am bwy ydych chi.

Sut fydd gwirfoddoli yn eich helpu chi yn y dyfodol?

Yn barod, mae gwirfoddoli wedi fy annog i ddysgu Cymraeg ac rydw i'n cymryd blwyddyn bant i ddysgu'r iaith yn iawn.

Mae hefyd wedi fy ngalluogi i weld beth sydd yn digwydd tu ôl i'r llen, i baratoi cynhyrchiad ac wedi rhoi mynediad i mi i gwrdd â nifer o bobl annisgwyl, o aelodau'r gynulleidfa i berfformwyr ac aelodau o'r cast. Rydw i hefyd wedi cwrdd â ffrindiau hyfryd yma.

Beth fyddwch chi'n dweud wrth unrhyw bobl ifanc sydd yn ystyried gwirfoddoli?

Peidiwch ag oedi! Gwrandewch yn astud ar yr  hyfforddiant, byddwch yn barod i ymgymryd â'r cyfrifoldebau a dewch i lawr.

Byddwch yn gweithio gyda thîm hyfryd, profi nifer o sioeau anhygoel a mwynhau gweithio yma.

Rydyn ni’n edrych am wirfoddolwyr o bob math o gefndir ac oedran i helpu yma. Ewch i’n tudalen gwirfoddoli i ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan.