Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Pobl yn gorymdeithio â llusernau papur drwy gyntedd Canolfan Mileniwm Cymru

Gorymdaith Lusernau Gymunedol 2021

Dewch i ymuno â ni yng Ngorymdaith Lusernau gymunedol 2021, wedi’i threfnu gan Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown, Cyngor Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Bydd prosiect taflunio gan raglen Dinas sy’n Dda i Blant Cyngor Caerdydd ac Urban Projections hefyd yn rhan o’r digwyddiad.

Mae croeso i bawb ymuno â’r orymdaith lusernau, yn ogystal â phlant o ysgolion cynradd lleol, defnyddwyr gwasanaethau Innovate Trust a Pedal Power, a bydd y cyfan yn goleuo Rhodfa Lloyd George gyda llusernau papur, cerddoriaeth a dawns.

Bydd cyfle hefyd ichi fwynhau arddangosfa o animeiddiadau o fyd y chwedlau, wedi’i chreu gan Ysgol Gynradd Radnor a rhaglen Caerdydd sy’n Dda i Blant, fel rhan o brosiect dan arweiniad Urban Projections. Bydd yr animeiddiadau’n cael eu taflunio ar un o danffyrdd Butetown wrth i’r orymdaith lusernau basio trwyddi, gan roi profiad anhygoel a fydd yn deffro’r synhwyrau.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r orymdaith lusernau, mae ein gweithdai galw i mewn dros hanner tymor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar agor i bawb. Byddan nhw’n cael eu cynnal gan yr artistiaid Alice a Niki Fogarty yng ngofod cyhoeddus y Glanfa rhwng 10am a 12pm, a rhwng 1pm a 3pm, o ddydd Llun 25 i ddydd Iau 28 Hydref.

Bydd y sesiynau’n rhoi llusern bapur i bawb sy’n cymryd rhan i’w haddurno yn barod at yr orymdaith nos Iau 28 Hydref. Felly, os bydd gennych chi awr yn rhydd yn ystod hanner tymor, dewch draw i ymuno yn yr hwyl.

Yna, nos Iau 28 Hydref, gofynnir i bawb sy’n cymryd rhan ymgynnull ym Mhlas Roald Dahl y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru am 6pm, cyn cychwyn ar y daith am 6.30pm. Dylech wisgo dillad cynnes ac esgidiau cyfforddus sy’n addas ar gyfer cerdded, ynghŷd â dod â fflachlamp neu, wrth gwrs, llusern!

Bydd y llwybr yn arwain ar hyd Rhodfa Lloyd George, o dan tanffordd Ffordd Letton lle gallwch chi stopio i fwynhau tafluniadau animeiddiedig disgyblion Ysgol Gynradd Radnor, cyn dychwelyd ar hyd Stryd Bute. Mae'r llwybr cyfan oddeutu 1.3 milltir, ac rydym yn amcangyfrif y bydd yr orymdaith yn para am 1 awr gydag amser gorffen amcanol o 7.30pm.

Mae llwybr byrrach hygyrch ar gael hefyd, a fydd yn cychwyn ar danffordd Ffordd Letton ac yn ymuno â dychweliad yr orymdaith ar hyd Stryd Bute. Mae'r llwybr hygyrch oddeutu 0.7 milltir a bydd yn para 30 munud. Os ydych chi'n bwriadu ymuno â'r orymdaith ar y llwybr hygyrch, rydyn ni'n cynghori eich bod chi'n cyrraedd tanffordd Ffordd Letton am 6.30pm i fwynhau'r tafluniadau a'r perfformiadau, ac yn ymuno pan fydd yr orymdaith yn cyrraedd!

Pan fydd yr orymdaith lusernau’n gorffen yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bydd gwahoddiad i bawb a gymerodd ran i gynhesu gyda diod poeth yn y Caffi.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am yr orymdaith neu’r gweithdai, neu os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau am hygyrchedd, croeso i chi gysylltu drwy e-bost: community@wmc.org.uk neu dros y ffôn: 07593819262