Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gweithdai hanner tymor: ysgrifennu creadigol

Ymunwch â ni dros hanner tymor mis Chwefror wrth droed ein 'Ancestree', coeden grosio pedwar llawr anhygoel yn ein Glanfa, ar gyfer gweithdai ysgrifennu creadigol galw heibio am ddim.

Roedd yr ‘Ancestree’ yn ganolbwynt i'n harddangosfa Eich Llais a fu'n dangos gwaith gan artistiaid lleol yn ystod y cyfnod clo. Ysbrydolwyd y gosodiad ei hun gan goed baobab, a wnaed ef â llaw gan ddefnyddio technegau crosio a rhaff sisal naturiol.

Fel yr awgrymwyd gan ei enw, mae'r ‘Ancestree’ yn anrhydeddu cyndeidiau a thraddodiadau. Felly ar gyfer y gweithdai hyn mae croeso i chi ddod â llun o hoff berson neu leoliad, neu eitem sy'n helpu i chi feddwl am atgof hoffus, i ysbrydoli'ch ysgrifennu.

Ar ddydd Gwener 25 Chwefror, bydd storïwr yn dod â'r straeon a cherddi a grëwyd yng ngweithdai'r wythnos yn fyw.

Mae'r gweithdai hyn yn addas i bawb 7 oed a hŷn o bob lefel gallu. Dewch yn llu i gymryd rhan yn y gweithgareddau rhyngweithiol a fydd yn helpu sbarduno a datblygu eich syniadau, p'un ai hynny drwy straeon byr neu farddoniaeth.

Bydd y gweithdai galw heibio yn cymryd lle ar 21 – 25 Chwefror, 11am – 3pm yn y Glanfa.

Does dim rhaid cadw lle - dewch yn llu!

Helpwch ni gadw’r fflam greadigol ynghyn

Cefnogwch ni heddiw