Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gweithdai diweddar mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg

Mae ein tîm Dysgu Creadigol yn cynnal gweithdai yn y Ganolfan, mewn ysgolion ac allan yn y gymuned. Dyma gipolwg o’u gwaith mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg dros dymor yr haf.

Bu Elen a Heledd yn cynnal gweithdy podcastio yn Ysgol Plasmawr ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 ar eu diwrnod pontio cyn dechrau’r ysgol uwchradd y mis Medi yma.

Pwrpas y diwrnod oedd i roi’r cyfle i’r disgyblion weld gwerth y Gymraeg y tu hwnt i’r ysgol – i ddangos bod modd cynnal diddordebau, byw bywyd a datblygu gyrfaoedd yn yr iaith. Mae trefniadau ar y gweill ar hyn o bryd er mwyn cynnal diwrnod tebyg eto ym mis Medi.

Bu Elen a Gweni yng nghwmni disgyblion blwyddyn 4 yn Ysgol Coed-Y-Gôf. Dros wythnos ym mis Gorffennaf bu’r disgyblion yn greadigol gyda stori Blodeuwedd, gan ddefnyddio gweithgareddau drama er mwyn dadansoddi’r stori, sgiliau llythrennedd wrth greu byrddau stori a sgiliau creadigol i greu pypedau. Perfformiwyd darn o Theatr Bypedau Gysgod gan y disgyblion yn y Ganolfan ar ddiwedd yr wythnos.

Cynhaliwyd gweithdy creadigol yn Ysgol Hamadryad gan Elen a Heledd gyda disgyblion blwyddyn 2. Cafodd y disgyblion y cyfle i ddod â’r llyfr ‘Syrpreis Handa’ yn fyw gan ddefnyddio sgiliau drama i’w pherfformio a chreu masgiau unigryw o’r anifeiliaid sy’n ymddangos yn y stori. Diwrnod yn llawn hwyl a sbri!

Am wybodaeth bellach neu i drefnu gweithdy, cysylltwch â Elen Thomas elen.thomas@wmc.org.uk