Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Woman in Colour (2020) by Michael Burgess

GWELD Y GOLEUNI YN YSTOD Y CYFNOD CLO

Woman in Colour (2020) by Michael Burgess

A ninnau'n byw drwy gyfnod clo arall, rydyn ni’n gofyn i chi'n helpu ni unwaith eto gyda phrosiect arbennig. Mewn cyfnod heb gyswllt, gadewch i ni gysylltu â’n gilydd drwy greu. Mewn cyfnod o fyfyrio, gadewch i ni edrych i’r dyfodol.

Yn ystod y cyfnod clo yma, beth am ddychmygu’r celfyddydau a’r byd o’n hamgylch o’r newydd? Rhannu ein hadeilad gyda chynulleidfaoedd, cymunedau ac artistiaid – dyma sy’n gwneud Canolfan Mileniwm Cymru yn lle hudolus y gallwn ni gyd ei fwynhau.

Unwaith eto, rydyn ni’n gofyn i chi rannu eich gobeithion, eich meddyliau a'ch straeon, a hynny drwy eiriau, caneuon, cerddoriaeth, dawns, animeiddio neu ym mha bynnag ffordd a fynnwch.

Rydyn ni am i chi fod yn rhan o’n harddangosfa ‘Lleisiau Dros Newid’. Unwaith y bydd modd i ni ddod ynghyd, byddwn yn llenwi’n hadeilad eiconig gydag arddangosfa o’ch lleisiau a’ch gwaith.

Daw gobaith o’r pŵer sydd gan bob un ohonom i ysgogi newid. Lleisiau Dros Newid yw eich cyfle chi i gael gwrandawiad a chydweithio â ni fel cymuned i greu arddangosfa wirioneddol ysbrydoledig ar gyfer y dyfodol.

Mae'r ffotograffydd lleol, Dee Bryan, wedi bod yn creu hunan bortreadau anhygoel drwy gydol 2020. Cadwch lygad am flog cyn bo hir gyda manylion am ei gwaith.

Llun o'r ddinas gyda'r nos
Cardiff at night gan Dee Bryan

Nid ydyn yn gwybod yn union beth fydd yr arddangosfa – mae hynny’n dibynnu ar y math o bethau byddwn yn eu derbyn gennych chi dros y misoedd nesaf. Ond beth bynnag a dderbyniwn, rydyn ni am i’r arddangosfa adlewyrchu adeg benodol – sef lle ydyn ni heddiw a’r dyfodol yr hoffem ni ei ddiogelu.

Rydyn ni’n gofyn i bawb; ein cynulleidfaoedd, ein cymunedau, ein cerddorion, ein beirdd, ein ffotograffwyr a'n hartistiaid lleol, i’n helpu ni greu gwaith gosod newydd sy’n llenwi’n hadeilad ac yn dod â phawb ynghyd.

Nod y prosiect yma, sydd dan arweiniad y gymuned, yw casglu eich gobeithion a’ch breuddwydion ar gyfer y dyfodol. Felly byddwch mor greadigol â phosib.

Gallech gyflwyno darlun neu baentiad, darn o waith gweu, ffotograff, collage, cân neu restr ganeuon, neu hyd yn oed syniad.

CHWILIO AM YSBRYDOLIAETH?

Cymerwch olwg ar ychydig o’r gwaith mae pobl wedi’i anfon atom hyd yn hyn.

Mae Dominika Rau o'n tîm Radio Platfform wedi creu'r fideo dawns gwych yma, sy'n sicr o godi gwên. Mae'r fideo'n cyflwyno pobl o bob cwr o Gymru. Cadwch lygad barcud am y dyn sy'n dawnsio wrth greu toes bara!

Efallai yn ystod y cyfnod clo rydych chi wedi darganfod bod yna bethau y gallwch chi fyw hebddynt, neu efallai bod yna rai pethau newydd fyddwch chi’n cymryd gyda chi i’r cyfnod nesaf.

Beth fyddwch chi’n ei gofio fwyaf am y cyfnod rhyfedd yma? Beth yw eich pryderon ar gyfer y dyfodol? Beth fyddwch chi’n ei wneud gyntaf unwaith daw ymbellhau cymdeithasol i ben?

Mae Lleisiau Dros Newid yn bwriadu cyfleu hyn a llawer mwy. Mae’n sgwrs gyda ni, sydd wedi’i arwain gennych chi.

Os yw’r hyn rydych chi wedi’i weld yn eich ysbrydoli chi, fe fydden ni wrth ein boddau yn cael clywed gennych. Anfonwch e-bost aton ni drwy community@wmc.org.uk neu dysgwch ragor am y prosiect yma yn ein blog Lleisiau dros Newid.